Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Presenol Mri. Maurice Jones, C. H. Lloyd Edwards, J. G. Jones, G. Hughes Roberts, W. W. Griffith, W. Thomas, J. Hughes Parry.

DIRWYO MASNACHWYR.

Cyhuddai yr Arolygydd Vaughan Davies, Mr. R. Albert Jones (Confectioneer), Liverpool House, Penlan Street, Pwllheli, o roddi gormod o siwgr a blawd gwyn yn y cacenau.

Ymddangosai Mr. W. R. Hughes, Caernarfon, i erbyn.

Tystiai Mr. Vaughan Davies iddo fyned i fasnachdy y diffynydd yn mis Mai, ac egluro iddo y rheolau newydd ynglyn a gwneud cacenau. Gadawodd gopi o'r rheolau iddo. Ni chaniateid mwy na 15 y cant o siwgr a 30 y cant o flawd gwyn yn y cacenau. Yn ystod y mis diweddaf aeth i'w fasnachdy drachefn, a phrynodd gacenau. Anfonodd hwynt ymaith i'w dadansoddi. Cynwysent 44.7 y cant o flawd, a 22.8 o siwgr, yr hyn oedd yn 14.7 y cant yn ormod o flawd a 7.8 y cant yn ormod o siwgr. Pan siaradodd ag ef yn ei cylch dywedai nad oedd gormod o siwgr ynddynt, ac ategai iddo sylwi wrth y wraig ar y pryd eu bod yn ffodus iawn mai y cacenau a lleiaf o siwgr ynddynt a gymerodd yr Arolygydd.

Dywedai yr Arolygydd fod masnachwyr Pwllheli yn waeth na masnachwyr unrhyw le yn y cyfeiriad hwn.

Mewn atebiad i'r diffynydd dywedodd yr Arolygydd ei fod wedi cymeryd cacenau i'w dadansoddi o bedair o siopau yn y dref yr adeg hono. Gofynai a wyddai fod cacenau ag y gwaherddid i'w gwneud yn cael eu dangos yn ffenestri masnachdai yn y dref y diwrnod hwnw.

Yr Arolygydd : Arhoswch hyd y Llys nesaf.

Y diffynydd : Nid wyf yn dweyd y gwna dau ddu un gwyn.

Y Clerc: Nid yw cyfeirio at eraill yn eich helpu o gwbl.

Dywedai y diffynydd nad oedd ond owns o siwgr ar gyfer 10 owns o flawd yn y cacenau, pryd y caniateid dwy owns ar gyfer pwys o flawd gan y rheolau. Dichon fod yr ychydig jam a roddodd yn nghanol y cacenau wedi eu melysu. Yr oedd cymaint o reolau dyrus yn dod allan fel yr oedd yn anhawdd iawn eu dilyn.

Hefyd cyhuddid Mrs Walis Thomas, Gwalia Restaurant, o drosedd cyffelyb. Cynwysai y cacenau yn ei hachos hi ormod o 6.6 y cant o siwgr a 11.83 y cant o flawd. Cydnabyddai y trosedd mewn llythyr i'r fainc.—

Dirwywyd Jones i 7s. 6c a Thomas i 5s. 6c., gyda gini yr un o gostau.

Yr Udgorn 15/08/1917


Llys Ynadon Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher Gerbron Dr. S. W. Griffith (yn y gadair), Mr. Maurice Jones. Mr. G. Hughes Roberts, Dr. Gwenogfryn Evans, Dr. O. Wynne Griffith, Mr. J. Hughes Parry, a Mr G. Cornelius Roberts.

ERLYN HEB AWDURDOD.

Cyhuddai Mr. H. Vaughan Davies, Arolygydd Mesurai a Phwysau y Sir, R. Albert Jones, Liverpool House, Pwllheli, o wneud twyll honiad mewn taflen yn gwneud cais am siwgr.

Ymddangosai Mr. J. Jones Morris i erlyn a Mr. Hugh Pritchard i amddiffyn.

Dywedai Mr. Morris fod Pwyllgor Amaethyddol y Sir wedi ymgymeryd a rhanu 27 tunell o siwgr yn y Sir i'r pwrpas o droi ffrwythau yn jam. Llanwodd Mr. Jones y daflen yn gwneud cais am 4 1/2 cant o siwgr, am fod ganddo chwe' chant o ffrwythau yn tyfu yn ei ardd ei hun. Arwyddid y cais fel tyst gan y Parch H. H. Williams, gweinidog yr Efengyl. Cyflenwyd ef a'r siwgr, a galwodd Mr. Vaughan Davies yno ar Medi 25fed. Gwelodd yno 435 o afalau wedi eu casglu, a dywedai y diffynydd fod yno 65 pwys yn rhagor yn y llofft.

Gofynai Mr. Hugh Pritchard am awdurdod Mr. Davies i erlyn yn yr achos.

Darllenodd Mr. Morris o'r archeb i'r perwyl fod yn rhaid i'r cyfrifon o'r siwgr a gyflenwid fod yn agored i'r Arolygydd i'w harchwilio.

Dywedai Mr. Pritchard nad oedd hyny yn brawf fod ganddo hawl i erlyn neb.

Mr. Morris : Os na all erlyn o dan yr archeb yna gall erlyn o dan archeb arall, sef rhif 538. Os na all Mr. Davies erlyn does neb arall all. Yr oedd yr archeb yn eglur fod ganddo hawl i erlyn.

Dywedai Mr. Pritchard eu bod wedi dwyn cyhuddiad difrifol iawn yn erbyn y diffynydd, ac yr oedd ef yn hollol barod i wrthbrofi y cyhuddiad y diwrnod hwnw neu rhyw ddiwrnod arall. Ond yr oedd yna egwyddor bwysig yn gorwedd o dan yr achos. Yr oedd yn fater o weinyddu deddfau y wlad yn briodol. Nid oedd gan Mr. Davies hawl o gwbl i erlyn o dan yr archebion hyn. Yr oedd yr archeb ei hun yn darparu mai yr awdurdod lleol oedd i erlyn. Yr awdurdod lleol yn yr achos hwn oedd y Cyngor Trefol. Nid oedd Mr. Davies yn awdurdod lleol nac yn swyddog i'r cyfryw awdurdod, ac felly nid oedd ganddo hawi i erlyn o gwbl. Yr oedd Mr. Davies yn cymeryd arno ei hun orchwylion awdurdod lleol, ac yn dod a chyhuddiadau yn erbyn pobl heb hawl o gwbl i hyny (chwerthin).

Mr. Morris : Yr oll allaf fi ei ddweyd yw fod genyf hawl i erlyn dan archeb rhif 537.

Y Clerc : Dylasai Mr. Pritchard fod wedi rhoddi rhybudd imi o'i fwriad i godi gwrthwynebiad mor bwysig. Awgrymai i ohirio yr achos er iddo gael hamdden i'w chwilio i fyny.

Mr. Morris : Os yw y gwrthwynebiad yn iawn, 'does mo'r help. Nid oes arnaf eisieu dod yma eto gyda'r achos.

Dywedai Mr. Pritchard ei fod ef yn hollol barod i wynebu yr achos ar ei deilyngdod, ond yr oedd yn bryd codi yn erbyn yr afreoleidddra yn nglyn a gweinyddu yr archebion.

Taflwyd yr achos allan ar bwys y gwrthwynebiad cyfreithiol a godwyd gan Mr. Pritchard.

Yr Udgorn 24/10/1917