MARWOLAETH.

Brydnawn Gwener diweddaf bu farw Mrs. Ann Jones, priod Mr. John Jones, baker, Nantlle House, West End, ar ôl byr waeledd, yn ei 65 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Jones yn adnabyddus i gylch eang o ymwelwyr a arferai aros gyda hwy yn yr haf, ac y mae Mr. Jones yn adnabyddus iawn i gylch eang o gyfeillion gan ei fod yn ddiacon ffyddlon yn y South Beach, a chyn hyny yn Saron, Penygroes.

Mae y mab, hefyd, Mr. J. J. Jones yn bregethwr gyda'r Methodistiaid.

Cydymdeimlir yn ddwfn a'r teulu oll yn eu profedigaeth lem.

Yr Herald Gymraeg 16/03/1915