BARDD BREGETHWR WEDI YMUNO.
Yr wythnos o'r blaen bu i Mr. Albert Evans Jones, mab Mr a Mrs R. Albert Jones, Liverpool House, ymuno a'r fyddin ym Mangor. Mae Mr. Jones, yr efrydydd hynaf yng ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, a dilynodd wyth o'r efrydwyr ei esiampl.Mae ef hefyd yn efrydydd yn y Brifysgol, ac er nad ydyw ond ugain mlwydd oed yr oedd i sefyll ei arholiad terfynol am raddau yn mis Mehefin nesaf.
Heblaw bod yn bregethwr poblogaidd, mae Mr. Jones hefyd yn fardd tra gobeithiol.
Mae ganddo eisoes bump o gadeiriau un o ba rai a enillodd pan yn 14 mlwydd oed.
Yr Herald Gymraeg 23/11/1915
PROFIAD BARDD-BREGETHWR YN SALONICA.
Anfonodd y Parch Albert Evan Jones, mab y Cynghorydd a Mrs R. Albert Jones, Liverpool House, Pwllheli, y llythyr canlynol i gydnabod derbyniad cerdyn Nadolig oddiwrth ei gyfaill, Mr. J. D. Lloyd Edwards, Pwllheli. Yr oedd Mr. Jones wedi enill pump o gadeiriau pwysig fel bardd cyn bod yn 18 mlwydd oed, ac yr oedd yn bregethwr poblogaidd gyda'r Bedyddwyr.Anwyl Gyfaill,
Diolch o galon am eich cerdyn Nadolig a'ch llythyr caredig. Mae gair o Gymru fel y diliau mel i ddyn mewn gwlad fel hon. Rhyw ddyrnaid bach o Gymry sydd gyda ni yn yr 86th Field Ambulance.
Gwasgarwyd y cwmni Cymreig wedi i ni lanio ym Macedonia. Tarawyd y gorlan ac wele'r defaid ar ddisperod. Gellwch feddwl ynte y cysur sydd i ni mewn llythyr Cymraeg. Mwyn hefyd yw arwyddion fel hyn oddiwrth ein ffrindiau gartref i ddangos nad ydym yn angof er fod llawer tir bellach rhyngom a Gwlad y Bryniau. Credwch fi, pethau fel hyn sy'n datguddio pwy yw'n cyfeillion cywiraf. Ysgrifenir eich caredigrwydd lle trof y ddalen beunydd i'w ddarlen a'i gofio. Diolch hefyd am y nodyn gobeithiol sy'n rhedeg drwy eich epistol. Credaf finnau nad yw'r diwedd nepell erbyn hyn. Onid yw llaw y Cymro heddyw ar y lyw ? Y mae genym ymddiried perffaith ynddo. Hapus ddydd pryd y daw'r newydd iddo roi terfyn ar gyni'r byd a dwyn i'w genedl heddwch gydag anrhydedd.
A ydych yn gwybod englyn John Morris Jones iddo?
Dafydd Llwyd a faidd y llu-a gyfyd
O ogofau'r fagddu;
Dwyn ei genedl dan ganu
I 'mosod ar ormes du.
Hapus ddydd pryd y daw'r bechgyn eto'n ôl. Duw a wyr fel y dyheaf am ei weled yn gwawrio. Ac eto nid edifar genyf fy ngwaith yn ymuno dan faner y Groes Goch. Ac yr wyf yn falch o'r profiad yr ydwyf yn mynd drwyddo - mwy o brofiad mewn mis nag a wel ambell weinidog mewn blwyddyn.
Mi welais y clefyd creulon,
Mi welais newyn y dre',
Mi welais fwg cartrefi llosg
Yn esgyn at Orsedd Ne'
Mi welais y clwyfog gwallgof
A gwymp ym merw'r drin,
A gwyliais rychau marwolaeth
Yn rhewi'n oer ar ei fin.
Mi welais y freuddwyd am Gymru
A'i chymoedd a'i glynodd glas,
A'r deffro'n uffern gan ddistryw
O safn y magnel cras:
Mi welais y gruddiau gwelwon
A fathrwyd dan garnau'r meirch
Mi welais y bedd di-enw
Mi welais y cyrff di-eirch.
Profiad digon erchyll fynyoh, ond profiad, mi obeithiaf, sydd i wneud gwell dyn a chryfach dyn ohonof o hyn allan.
Gyda chofion cynhesaf, yr eiddoch yn gu,
ALBERT E JONES.
Yr Herald Gymraeg 20/02/1917
EI DDYRCHAFU YN GAPLAN.
Llawen genym gael y cyfle o groniclo penodiad uchel a ddaeth i ran Private Albert Evans Jones, B.A., R.A.M.C., mab hynaf Mr a Mrs R. Albert Jones, Liverpool House, sef ei ddyrchafu yn Gaplan yn Salonica. Ymunodd a'r Fyddin pan ynghanol ei gwrs o addysg yn y Brifysgol. Dygwyd y gatrawd y perthynai iddi i Salonica yn mis Medi diweddaf. Felly yn ôl ei eiriau ef ei hun y mae wedi treulio blwyddyn ac eithrio un mis ar fynyddoedd Macedonia, wedi myned drwy amseroedd enbyd fel stretcher bearer, wedi gweled aml i frwydr boeth, ac wedi cael llawer dihangfa gyfyng o dan shells y gelyn ond fel y gwyddis y gelyn mwyaf dinystriol yn y rhan hono ydyw y clefyd ofnadwy malaria. Bu yn ffodus i'w osgoi er yn ei ganol.Ddydd Gwener derbyniodd ei dad cablegram o Salonica yn ei hysbysu o'i ddyrchafiad yn Gaplan. Yn dilyn hyn derbyniodd lythyr dyddorol iawn yn rhoi hanes yr urddiad.
Bellach bydd ein ieuanc yn gweinyddu yn yr ysbyttai yno, a chan fod tair o'r rhai hyn o dan ei ofal, sicr genym y daw i gyfarfyddiad a llawer o fechgyn ei ardal enedigol ac yn ôl ei eiriau ef ei hun, ei bleser penaf fydd bod o rhyw wasanaeth iddynt. O hyn allan adnabyddir ef fel y Cadben A. Evans Jones.
Llongyfarwchwn ef ar ei ddyrchafiad, a dymunwn iddo bob rhwyddineb a nerth i gyflawnl ei ddyledswyddau pwysig.
Yr Udgorn 26/09/1917
WEDI EI GLWYFO.
Daeth cerdyn oddiwrth Private Alwyn Jones, mab Mr a Mrs R. Albert Jones, Liverpool House, yn dweyd ei fod wedi ei glwyfo ac yn garcharor yn yr Almaen.Drwg gennym ddeall fod ei frawd, Capten Albert Evan Jones, y bardd-bregethwr, yn wael yn Saionica. Gweithreda ef fel caplan yn y fyddin.
Yr Herald Gymraeg 25/06/1918
NEWYDD CALONOGOL.
Derbyniodd Mr a Mrs. R. Albert Jones. Liverpool House, lythyr trwy gyfrwng Cymdeithas y Groes Goch yn Switzerland, oddiwrth eu mab Pte. Alwyn Jones, yr hwn sydd yn garcharor rhyfel yn yr Almaen, yn dweyd fod ei glwyfau wedi gwella yn rhagorol a'i fod mewn iechyd da.Mae Private Jones yn garcharor er mis Chwefror, ac ni wyddai ei deulu ddim yn ei gylch hyd nes y derbyniwyd y llythyr hwn, ac y maent yn ddyledus i Gymdeitihas y Groes Goch am ysgafnhau eu pryder.
Yr Herald Gymraeg 27/08/1918
CAPLAN POBLOGAIDD.
Nos Fercher cyrhaeddodd y Caplan Albert Evans Jones, mab Mr a Mrs R. Albert Jones, Liverpool House, adref o Salonica. ar ôl bod yno yn ynladd â'r Bwlgariaid am ddwy flynedd a haner.Ymunodd Mr. Jones a'r fyddin o'r Coleg. Bu yn gwasanaethu gydag adran y Groes Goch am beth amser. Ar ôl hynny dyrchafwyd ef yn caplan, a sicrhawyd gan filwyr o Salonica a fu ar ymweliad â Phwllheli ei fod yn ethriadol o boblogaidd yn mysg y milwyr a phob amser yn cael cynulliad lluosog pan yn anerch y milwyr. Nid oedd swyddog caredicach na pharotach ei gymwynas yn y fyddin.
Mae Mr Jones hefyd wedi cyfansoddi llawer o farddoniaeth yn ystod y rhyfel a fydd byw am lawer o amser i ddod.
Mae Alwynne, mab arall i Mr a Mrs Jones, yn garcharor yn yr Almaen.
Yr Herald Gymraeg 19/11/1918
LLWYDDIANT BARDD.
Y Parch Albert Ifan Jones, B.A., (Cynan), Pwllheli. Dyma'r enw ydoedd yn adseinio yn eisteddfod fawreddog Birkenhead, pan y cyhoeddwyd fod ei gynnyrch yn sefyll ar ben ei hun yn y gystadleuaeth am bryddest ar "Fuddugoliaeth" ac yr ennillodd y goron arian gwerth £21."Well done," Albert, onide?
Yr oedd hufen genedl yn clorianu'n mhersonau Hawen a Moelwyn. Ac i ran y blaenaf y disgynodd cyhoeddi'r feirniadaeth, ac fel hyn yr oedd (heb dynu yr un iot oddiwrth y geiriau a lefarwyd) :—
"Fod y bryddest fuddugol yn sefyll yn hollol ar ei phen ei hun fel athrylith farddonol, ac fod dyfodol gwych a disglaer yn aros ei hawdur cyn pen ychydig amser."
Yr oedd Albert Ifan yn fardd cadair o'r blaen (na, cadeiriau lawer), ond heddyw gelwir ef yn fardd Coronog, wedi ei gyhoeddi yngwydd llonaid tŷ eisteddfodol o dystion. Y mae'r llenor, y bardd, a'r pregethwr wedi eu cyfuno ynddo. Pa un o'r galluoedd uchod yw'r mwyaf ynddo tybed ? Er cymaint o'r llenor sydd ynddo, ac er ei fod yn prysuro i fyned yn uwch o'i ysgwyddau na'i gyfoedion yn y byd barddonol, credwn yn ddiysgog na fethwn wrth ddweyd yn onest ddigon mai ei awyddfryd mwyaf a'i ddyhead cryfaf yw am fod yn wir bregethwr yn fwy na dim arall, ac yn ôl y galwadau sydd arno, fe sieryd hynny gyfrolau ynddynt eu hunain heb i ni ychwanegu dim yn mhellach.
Bu'n filwr cyffredin yn y rhyfel fawr ddiweddaf. Gwyr beth yw caledi'r private gwyr beth yw bod yn yr ystorm fel miloedd eraill mewn estron wlad a pheth yw dioddef newyn a syched, a phan ddaeth yn gaplan, gwyddai sut i gydymdeiailo a'r bechgyn ac esgyn llwnc o ddwfr heb rwgnach wrth fyned allan o'i ffordd i aml i Gymro oedd ar drengu.
Calon ac enaid pregeth ei fywyd ydoedd "am ryddid" a chysur i ddynoliaeth, a dyma'r dynion all bregethu; dynion sydd wedi bod uwchben tragwyddoldeb megis; dynion a fagodd brofiadau newydd, ac fe fu bod yn blant y gofidiau yn help a chymorth iddynt i feithrin newydd-deb yn eu pregethau.
Wel, Albert, bellach, bydd wych a sicrhawn fod pob llwvdiant eto sydd i ddilyn yn help a chymorth "i godi'r hen wlad yn ei hol."