CYD-DDIGWYDDIADAU RHYFEDD.

Yr wythnos o'r blaen yr oedd Private Hughie Elias, mab Mr. John Elias, North Street, Pwllheli, yr hwn fu'n gwasanaethu yn masnachy Mr. Caradog Evans, Pwllheli, am saith mlynedd, yn myned drosodd i Ffrainc. Pan oeddynt yn ngorsaf Birmingham aeth amryw ddegau ohonynt i lawi i gael golwg ar y dref. Cyfarchwyd ef gan foneddiges yn yr orsaf, yr hon a ofynodd iddo a ydoedd yn Gymro, a phan hysbysodd hi ei fod yn dod o Bwllheli ac wedi bod gyda Mr. Caradog Evans yn gweithio dywedodd wrtho ei bod hi yn gyfnither i Mr. Evans.

Cymerodd cyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn arall le yn hanes Private James Ellis, brawd Mr. John Ellis, y Cyfrifydd Trefol. Yn gweled fod y milwr agosaf ato yn y ffosydd yn Gymro gofynodd Mr. Ellis iddo o ba le yr oedd yn dod a phan yr hysbyswyd ef mai o gymydogaeth Llanerchymedd yr oedd ei gyfaill yn dod, dywedodd Mr. Ellis fod ganddo ewythr o'r enw Robert Williams yn yr ardal hono. Edrychodd ei gyfaill yn syn iawn arno a dywedodd wrtho ei fod ef yn fab i'r cvfryw Robert Williams.

Nid llai rhyfeddol ydoedd yr hyn a gymerodd le yn hanes Private Griffith Jones, mab Mrs Jones, Recreation Road, West End. Yr oedd Mr. Jones yn croesi ar ei ddeurod o un linell i'r llall, ac yn myned trwy wersyll milwyr Canada. Yr oedd Jones wedi diffygio yn lan ar y daith, ac yn gorphwyso ai bwys ar ei ddeurod. Daeth milwr ato gan gynyg cymorth iddo. Wedi ymgomio peth daeth i ddeall mai ei gymwynasydd ydoedd Private Owen Williams, mab Mr a Mrs Samuel Williams, Tanygarn, sydd yn perthyn i filwyr Canada.

Yr Herald Gymraeg 16/01/1917