YN GARCHAROR.
Ddiwedd yr wythnos derbyniodd Mr. a Mrs. R. A. Jones, Liverpool House, y newydd swyddogol fod eu mab. Private Alwyn Jones, yn garcharor yn Germani.Bu pryder y teulu hwn yn fawr ynghylch sicrwydd ei ddiogelwch, ond erbyn hyn mae'r cymyl du wedi gwasgaru o'u gwybrenau, a phosibilrwydd gwyn am ddychweliad yn ôl Alwyn hoff rhyw ddydd o afaelion caeth yr Ellmyn di-ras.
Mae Alwyn yn ffefryn lluaws, a bydd y newydd calonogol hwn am dano yn foddion llawenydd iddynt.
Yr Udgorn 19/06/1918
WEDI EI GLWYFO.
Daeth cerdyn oddiwrth Private Alwyn Jones, mab Mr a Mrs R. Albert Jones, Liverpool House, yn dweyd ei fod wedi ei glwyfo ac yn garcharor yn yr Almaen.Drwg gennym ddeall fod ei frawd, Capten Albert Evan Jones, y bardd-bregethwr, yn wael yn Saionica. Gweithreda ef fel caplan yn y fyddin.
Yr Herald Gymraeg 25/06/1918
NEWYDD CALONOGOL.
Derbyniodd Mr. a Mrs. R. Albert Jones, Liverpool House, lythyr trwy gyfrwng Cymdeithas y Groes Goch yn Switzerland, oddiwrth eu mab, Private Alwyn Jones, yr hwn sydd yn garcharor yn Germani, yn dweyd fod ei glwyfau wedi gwella yn rhagorol, a'i fod mewn iechyd da.Mae ei deulu yn ddyledus am y newydd calonogol hwn, fu'n foddion i ysgafnhau eu pryder yn ei gylch, i Gymdeitbas y Groes Goch.
Yr Udgorn 28/08/1918
ADREF O'R CAETHIWED.
Boreu Mercher daeth Private Alwyn Jones, mab Mr a Mrs R. Albert Jones, Liverpool House, adref o'r Almaen, lle y bu'n garcharor am amryw fisoedd. Bu raid i'r milwr ieuanc ddianc o afaelion y gelyn, a bu raid iddo ef ac eraill gerdded 60 milltir trwy'r eira a'r oerni cyn y daethant i ddiogelwch.Yr Herald Gymraeg 28/01/1919
YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd yr uchod, ddydd Mercher, Mr J G. Jones yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol Mri J. Hughes Parry, Maurice Jones, Dr. J. W. Rowlands a Griffith Evans.CI YN CRWYDRO.
Cyhudda'r Arolygydd Griffiths R. G. Alun Jones. Liverpool House, o adael i'w gi grwydro allan yn y nos. Ymddangosodd Mr. W. Cradoc Davies, ar ran y diffynydd, a chyfaddefai'r trosedd.Tystiodd y Rhingyll Lloyd iddo weled y ci yn crwydro tua 11-50 y nos. Daliodd ef, ac aeth ag ef i'r gwaith nwy. Foreu drannoeth daeth y diffynydd yno i hawlio'r ci. Yr oedd gan y ci goler, ond nid oedd enw arni. Yn ateb i Mr. Davies dywedai fod llawer o gwn yn crwydro allan yn y nos, ond nid oeddynt yn hawdd i'w dal.
Mr Davies : Ac er eich bod wedi dal a eraill dyma'r cyntaf i chwi ei wysio.
Y Rhingyll : Wel, fe ddeliais hwn beth bynnag.
Mr. Davies : Ond bu i chwi ddal amryw eraill, a dyma'r cyntaf i chwi ei wysio.
Dywedodd yr Arolygydd Griffiths fod cwyn fod cwn yn crwydro'r nos, ac fod yr heddlu wedi cael gorchymyn i erlyn yn mhob achos yn ystod y pythefnos diweddaf.
Dywedodd Mr. Cradoc Davies fod y diffynydd yn dioddef dan ddylanwad shell shock. Yr oedd wedi bod yn garcharor yn yr Almaen am flynyddau, ac yr oedd hynny wedi dweyd ar ei iechyd. Yr oedd Mr R. A. Jones, tad y diffynydd wedi myned i'r masnachdy y noson dan sylw a phan agorodd y drws diangodd y ci ymaith. Gwnaeth ei oreu i geisio dod o hyd iddo ond methodd.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn beth annymunol iawn i adael cwn allan yn y nos, ac yr oedd yr heddlu yn rhwym o gymeryd cwrs yn erbyn troseddwyr.
Yr oeddynt am ymddwyn yn dyner yn yr achos hwn trwy osod dirwy o 10s.