Hawl Cyfeilydd.
Ymddangosai Mr Hugh Pritchard yn Llys Sirol Pwllheli, ddydd Mercher, ar ran Mr W. O. Lloyd, Pwllheli,yn hawdio 5p 1s 3c oddiar yr Anglo Cymric Cinema Co. am ei wasanaeth iddynt yn chwarae y berdoneg pan oedd y Cwmni 'n dangos darluniau byw ym Mhwllheli a Chriccieth.Anfonodd y cwmni i ddymuo am i'r achos ei ohirio, a dywedid eu bod wedi rhoddi cyfarwyddyd i'w rheolwr i dalu yr arian. Gwnaeth y Barnwr archeb am i'r arian gael eu talu cyn pen 14 diwrnod.