MARW A CHLADDU.
Ddydd Mawrth, Mehefin 26ain, ar ol gwaeledd blin, bu farw Miss Voller, West End, a hi yn 54 mlwydd oed. Yr oedd yn dra hysbys yn y dref ar gyfrif ei diwydrwydd ynglyn a'r gwahanol gymdeithasau dyngarol.Cymerodd ei hangladd le y dydd lau dilynol yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Edwards, B.A., Ficer, a Pierce Owen, B.A., Ciwrad. Y perthynasau, ffryndiau, a gweinyddesau y Groes Goch yn eu gwisgoedd swyddogol oedd yn gwneud i fyny y cynhebrwng.
Cydymdeimlwn a'r perthynasau trallodus.