YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mercher, Mr. Maurice Jones yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol Mri. G. Hughes Roberts, William Thomas, a Dr. Gwenogfryn Evans.YMOSODIAD.
Cyhuddai John Bolton, Wesley-street, Pwllheli, Morris Parry Jones, 56, Abererch-road o ymosod arno. Dywedodd yr achwynydd ei fod yn gyru traction engine yn yr orsaf, ac i'r diffynydd ei daro amryw droion nes y syrthiodd ar lawr. Yr oedd lympiau ar ei ben a'i geg yn gwaedu.Tystiodd Mr. Henry Hughes a gweithiwr arall iddynt gael yr echwynydd mewn ffit ar lawr, and ni welsant yr ymosodiad. Tystiodd y Rhingyll Lloyd o berthynas i'r olion oedd ar y bach gen.
Gwadai'r diffynydd iddo wneyd dim mwy na rhoddi pwniad i'r achwynydd yn ei ochr am ei fod wedi bygwth ei daro a'r pocer.
Rhoddwyd dirwy o 1p. a 7s. o gostau.