GWYWO YNG NGWANWYN OES.
Ddydd lau, wedi cystudd blin, bu farw Miss Polly Evans, merch Mrs Evans, Bodelen, West End, a hi yn 28 mlwydd oed.Yr oedd yr ymadawedig yn eneth ieuanc hardd o bryd, ac yn brydferth a dilychwin ei chymeriad. Byddai bob amser yn llon ei hysbryd ac yn dyner a charedig wrth bawb.
Cymerodd ei chladdedigaeth (anghyhoedd) le yn mynwent Deoio ddydd Llun. Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, Elms.
Cydymdeimlwn a'i mam a'i chwaer yn eu galar dwfn am dani.