Llys Sirol Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mawrth, gerbron y Barnwr W. Evans.COLLI'R UNIG FAB.
Ymddangosai Mr. Houghton Davies, ar ran Mrs. Jehu, Pwllheli, ynglyn ag iawn dal ar ôl ei mab, yr hwn a gollodd ei fywyd ar yr Agerlong "Artist," a suddwyd gan y gelyn.Dywedai fod y fam yn dibynu ar ei hunig fachgen, ac fod y Cwmni yn foddlon talu 156p. o iawn dal. Gofynai am gael 56p allan, a buddsoddi y gweddill mewn benthyciad rhyfel.
Caniatawyd y cais.