Llys Sirol Pwllheli.

Cynhaliwyd yr uchod ddydd Mawrth, gerbron y Barnwr William Evans.

Y FUWCH A GOLLODD EI THETH.

Hawliai Daniel Jones, Terfyn, Morfa Nefyn, y swm o 26p. oddiar Griffith Jones, Arley House, Pwllheli, sef pris buwch a werthodd y diffynydd i'r hawlydd. Croeshawliai y diffynydd y swm o 18p. 18s. 6c. Ymddangosai Mr William George ar ran yr hawlydd, a Mr. Evan R. Davies ar ran y diffynydd.

Eglurodd Mr. E R. Davies fod yr hawlydd wedi prynu dwy fuwch gan y diffynydd am 26p. yr un. Gwerthodd hwy i Mr. H. Roberts, Rhydyclafdy, ac nid oedd gan un o honynt ond tair teth. Dadleuai Mr. W. George fod y fuwch yn iawn pan ei gwerthwyd, ac fod yn rhaid fod rhywbeth wedi digwydd ar ôl hyny. Tystiai yr hawlydd (Daniel Jones) ei fod yn masnachu mewn gwartheg ers llawer o flynyddau. Tua diwedd Mehefin aeth i Yokehouse gyda'r atebydd i brynu dwy fuwch. Yr oedd y fuwch mewn cwestiwn yn aflonydd iawn pan oedd ef yn ceisio ei harchwilio, a diangodd allan o'r gorlan. Pwysai ef arno a oedd y deth flaen yn iawn, a sicrhaodd yntau ef fod y pedair teth yn iawn, a phrynodd hwy am 26p. yr un. Yn ateb i Mr. E. R. Davies dywedai iddo werthu y ddwy fuwch i Hugh Roberts, Hendre Wen, Rhydyclafdy, am 26p 5s. yr un. Ni wnai o 5s. yr un o elw ynddynt. Pan oedd yn talu am danynt i'r atebydd sicrhaodd ef heb iddo ofyn fod teth y fuwch yn iawn. Yn ddiweddarach cafodd lythyr oddiwrth Hugh Roberts yn dweyd mai tair teth oedd gan y fuwch. Pan hysbysodd ef hyny i Griffith Jones dywedodd fod yn rhaid fod rhyw gam wedi ei wneud a'r fuwch gan Hugh Roberts. Cafodd ymgom â Griffith Jones a Hugh Roberts, a dywedodd wrthynt ei fod am anfon meddyg anifeiliaid i'w harchwilio, ac anogodd hwythau i wneud yr un peth. Yn ddiweddarach gofynodd i Griffith Jones beth oedd am wneud ynglyn a'r fuwch. Dywedodd yntau nad oedd a wnelo ef a'r mater, gan fod y fuwch yn iawn yn ei adael ef. Dywedodd Griffith Jones y tro dilynol fod eisieu iddo symud y fuwch gan fod costau mawr i'w chadw a thalu i'r meddyg anifeiliaid.

Yn ateb i Mr. W. George dywedai nad oedd Hugh Roberts wedi archwilio y fuwch cyn ei phrynu. Yn mhen pythefnos ar ôl ei gwerthu y cafodd ef lythyr oddiwrth Hugh Roberts yn cwyno am ei chyflwr, Tystiai Hugh Roberts, Hendre Wen, Rhydyclafdy, iddo brynu y ddwy fuwch dan sylw gan Daniel Jones. Nid oedd ef gartref pan ddaeth y ddwy fuwch yno, ac nis gwelodd hwy am wythnos. Y pryd hwnw amheuodd y fuwch, ond methodd a chael archwilio ei phwrs. Yn mhen ychydig ddyddiau drachefn archwiliodd hi, a gwelodd ei bod yn fyr o bedwerydd teth. Anfonodd at Daniel Jones, i ddweyd am gyflwr pwrs y fuwch. Daeth a llo ar Awst 2il, a daeth Mr. Roberts, y meddyg anifeiliaid, yno i'w harchwilio. Symudwyd y fuwch y dydd Llun dilynol. Yr oedd yn hollol oleu, a chyfarfyddasant a Griffith Jones ar y ffordd. Dywedodd wrtho ei fod yn dod a'r fuwch yn ôl dan gyfarwyddyd Daniel Jones. Derbyniodd y fuwch, ac agorodd y llidiart iddi fyned i'r cae. Yr oedd tarth yn y morfa ar Ian yr afon ar y pryd, ac anogodd ef i roddi y fuwch i fewn. Dywedodd Griffith Jones ei bod yn iawn i'r fuwch fod allan, a gadawodd hi allan y noson. Yr oedd hyn yn mhen pedwar diwrnod wedi i'r fuwch fwrw llo.

Yn ateb i Mr. W. George dywedai mai dwy filltir a haner sydd o ffordd o'i fferm ef i'r lle y rhoddwyd y fuwch y noson hono. Bu yno am bythefnos a thri diwrnod cyn iddo ei hanfon yn ôl. Anfonodd ei gwyn i Daniel Jones yn mhen wythnos a thridiau. Yn mhen pythefnos daeth y meddyg anifeiliaid yno. Tystiai Mr. G. J. Roberts, meddyg anifeiliaid iddo fyned i weled y fuwch ar Awst 3ydd. Yr oedd newydd fwrw llo. Gwelodd tod un o'r tethi yn ddiffygiol. Yr oedd mewn iechyd perffaith ar y pryd. Yr oedd ef yn sicr fod y deth yn y cyflwr hwnvv ers wythnosau os nad misoedd. Yn ei farn ef nid oedd y deth ganddi pan brynwyd hi gan yr hawlydd. Nid oedd yn gam o gwbl a'r fuwch i'w cherdded ddwy filltir a haner fel y gwnaed ar ôl iddi fwrw llo. Gallesid ei cherdded ddeng milltir heb fod yn unrhyw niwed iddi. Yr oedd gadael y fuwch allan yn y nos ar ôl iddi fod i mewn yn tueddu i achosi enyniad yn y pwrs. Yn ateb i Mr. W. George dywedai nas gallai ef ddweyd pa bryd yr amharwyd y deth. Dywedai John Owen, gwas gyda Hugh Roberts, na ddarfu i Griffith Jones ddangos unrhyw wrthwynebiad i gymeryd y fuwch. Yr oedd Hugh Roberts wedi ei anog i'w rhoddi i fewn. Tystiai Griffith Jones, y diffynydd, iddo werthu dwy fuwch gyflo i Daniel Jones. Archwiliodd bwrs y fuwch yn y gorlan, ac ni soniodd fod dim allan o le ynddi, ac aeth a hwy ymaith yn mhen y pythefnos, pryd y talodd am danynt. Pan ddeuwyd a'r fuwch yn ôl dywedodd ef nad oedd a wnelo a hi o gwbl, gan mai i Daniel Jones y gwerthodd ef hi, ac yr oedd yn iawn yr adeg hono. Modd bynag, rhoddasant hi yn y cae, a dyna lle yr oedd yn gorwedd boreu dranoeth yn sal. Nid oedd llaeth o gwbl mewn dwy deth, ac aeth a hi i'r beudy, ac aeth i'r dref am y meddyg anifeiliaid. Gwelodd Daniel Jones yn y dref, a gofynodd iddo i beth yr oedd yn anfon y fuwch yn ôl yn y cyflwr hwnw. Yr oedd y pedair teth yn iawn yn ystod y naw mis y bu ganddo ef.

Yn ateb i Mr. E. R Davies dywedodd iddo brynu y fuwch am 12p yn Nhachwedd, 1915 gan Thomas Wiiliams, Tyddyn Cethin. Cydnabyddai fod Daniel Jones wedi gofyn iddo a oedd y tethi yn iawn, a'i fod yntau wedi dweyd eu bod yn iawn pan anfonodd hwy i bori i Yokehouse. Nid oedd Daniel Jones wedi amlygu dim amheuaeth o berthynas i gyflwr tethi y fuwch. Nid oedd ef yn cofio iddo son am deth y fuwch pan oedd Daniel Jones yn talu amdanynt. Ni soniodd Hugh Roberts wrtho am roddi y fuwch i fewn y noson y daeth a hi'n ôl. Tystiai Miss Frances Jones, chwaer y diffynydd, ei bod wedi godro pedair teth y fuwch lawer gwaith, ac yr oeddynt yn iawn. Yr ydoedd wedi anfon llythyr ar Medi 1af at Daniel Jones yn dweyd fod y fuwch yn dioddef oddiwrth yr adgyfirfod yn ei phwrs, ac fod yn well iddo ddod i'w hymofyn, gan y byddai yn ofynol iddo dalu am ei lle ac i'r meddyg. Mr. Shelton Jones, meddyg anifeiliaid, Afonwen, a dystiai iddo weled y fuwch ar Awst 9fed, ac yr oedd y pwrs i gyd yn chwyddiedig a'r tethi wedi enynu. Yr oedd mewn poen mawr. Yr oedd ef yn gweinyddu ar y fuwch yn awr. Nid oes llaeth ond mewn un deth. Yn ei farn ef yr oedd yr holl dethi yn iawn cyn hyn. Tro anoeth iawn ydoedd cerdded y fuwch ddwy filltir a haner pan symudwyd hi o Rhydyclafdy, ac yr oedd y cyflwr yr oedd ynddi yn awr wedi ei achosi gan eu gwaith yn ei symud fel y gwnawd.

Yn ateb i Mr. E. R. Davies dywedai nad oedd dim gwahaniaeth rhwng yr un o'r tethi a'u gilydd, ac ni chytunai ef a thystiolaeth Mr, Roberts fod un o'r tethi yn ddrwg ar Awst 3ydd. Nid edd ef yn cytuno a Hugh Roberts a John Owen fod gwahaniaeth rhwng y tethi. Nid oedd yr hyn a dystiai Mr. Roberts oedd ar y deth ar Awst 3ydd i'w weled arni ar Awst 9fed, a'i farn ef ydoedd nad oedd yno ar y 3ydd. Nid oedd yn bosibl iddo gilio ymaith, ac nid oedd yno heddyw. Cymewyd yr achos dros y diffynydd gan Mr J. Jones Morris, am fod Mr. George wedi gorfod ymadael. Dadleuai Mr. Morris nad oedd gan yr hawlydd hawl i ddychwelyd y fuwch, ac o ganlyniad ei fod yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd iddi ar ôl ei symud. Cydnabyddai fod y diffynydd wedi gwerthu y fuwch yn ddianaf, ac nid oedd prawf nad oedd felly.

Dadleuai Mr. E R. Davies o'r ochr arall fod y ffaith fod y fuwch wedi ei phrynu am 12p. ac yna ei gwerthu am 20p. yn mhen saith mis yn profi fod rhywbeth o'i le ynddi yn y cychwyn. Rhoddodd y Barnwr ei ddyfarniad yn mhlaid y diffynydd ar yr hawl, ac 8p. ar y groeshawl.

Yr Udgorn 08/11/1916