GOLYGFA MEWN MYNWENT.

Llythyr Milwr o Bwllheli.

Private Gwilym Owain Jones, Field Ambulance Service R A M C.

Mab ydyw i Mr a Mrs William Jones Claremont. South Beach, Pwllheli a gwasanaethai fel fferyllydd gyda Mr R. O. Griffiths. High Street, Pwllheli. Bu i Mr Jones ymuno a'r fyddin ar Tachwedd 17. 1915, ac ar Rhagfyr 6 yr oedd drosodd yn Ffrainc.

Mewn llythyr dyddorol anfonodd i'w rieni yr wythnos o'r blaen desgrifia y profiad a gafodd wrth fyned i hvsbysu Lieut. W. A. Evans, Ffestiniog, fod ei frawd Lieut. D. O. Evans wedi ei ladd. Y oedd yn myned trws fynwent, ac yr oedd ergydion y Germaniaid wedi agor y beddau a'r cyrph yn gorwedd ar y wyneb. Ond yr oedd cofgolofn Syr Hubert Hamilton yn aros heb ei dinystrio. Er gwaethaf yr ymladd a'r ergydion yr oedd y ffermwyr i'w gweled yn arediig eu meusydd yn gwbl ddigynhwrf.

Dywedai na byddai raid i'w fam gyflogi morwyn pan ddelai adref, gan ei fod yn cael profiad o holl waith y tŷ ac yr oedd llawer ohonynt bron a chael clefyd y morwynion i'w pengliniau wrth olchi y lloriau, etc.

Yr Herald Gymraeg 07/03/1916