ENILL CADAIR.
Deallwn mai Miss M. Jones-Williams, Morlan, South Beach, a enillodd y gadair rhoddedig gan Mr Griffith Jones, Shop Crugan, am ddweyd ymlaen llaw faint fyddai nifer y rhai a bresenolent eu hunain yn y Neuadd Drefol ar yr achlysur o goroni y Frenhines Fai.Yr oedd y gadair yn werth 2p. 8s. 1,245 oedd yn bresenol ar yr achlysur, a 1,240 roddodd Miss Williams ar ei cherdyn.