MARWOLAETH.

Dydd Mercher diweddaf bu farw Mr Hugh Jones, Madryn House, yn yr oedran teg o 95 mlwydd oed. Yr oedd hyd o fewn rhyw bum wythnos yn ôl yn mwynhau iechyd cydmarol dda ac yn gallu myned o gwmpas.

Dydd Sadwrn cludwyd ei weddillion i hen fynwent Denio - claddedigaeth anghyhoedd, ac o dan y drefn newydd. Gweinyddwyd wrth y tŷ ac ar Ian y bedd gan y Parch J. Rhydderch. Yr undertaker ydoedd Mr R. T. Williams, Bon Marche.

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Bwllheli, ac yn aelod gyda'r Annibynwyr.

Yr Udgorn 09/04/1913