ANGLADD.
Dydd Mawrth, cymerodd angladd Miss Euronwy Evans, Eirianfa, South Beach, le yng nghladdfa'r teulu yn Morfa Nevin.Gwasanaethwyd gan y Parchn David Jones, Edge Lane, a Thomas Williams, Pwllheli. Y prif alarwyr yn bresennol oeddynt Dr Simon G. Evans, Mr Llewelyn Evans, a Mr Wm. Charles Evans, B.Sc., B.A., Dr O. Wynne Griffith, Y.H., Mrs Wynne Griffith, Miss Nesta Wynne Griffith, a Miss Hughes, Plasranrallt, Pwllheli; Miss Hughes, Awelon; Capten Owen Davies.
Gofelid am y trefniadau gan Mr John Jones, Salem Place.
Cydymdeimlir yn fawr a Mrs Evans, ei mam, a'r teulu oll yn eu profedigaeth o golli merch ieuanc mor ddeallgar aa addawol ym mlodau ei dyddiau.