YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mercher. Ar y fainc Mri J. G. Jones (cadeirydd), Maurice Jones, G. Hughes Roberts, C. H. Lloyd Edwards, W. Thomas. Dr. Gwenogfryn Evans, Dr. S. W. Griffiths, Dr. R. Jones Evans, a Mr J. Hughes Parry.DIRWY DROM AR DAFARN WRAIG.
Cyhuddodd yr Arolygydd Owen, Jane Jenkins, Victoria Hotel, Pwllheli, o agor y gwesty i wneyd masnach yn ystod oriau gwaharddedig. Hefyd, cyhuddai Griffith Thomas. 3 Tarsus Place, Penrhydleiniog, o fod yn y Victoria Hotel yn ystod oriau gwaharddedig. Ymddangosodd Mr William George ar ran yr erlynydd a Mr M. E. Nee, Caernarfon ar ran Mrs Jenkins.Eglurodd Mr George fod y cyhuddiad yn ymwneyd a digwyddiad gymerodd le ar foreu Sul, Hydref y 3ydd. Tua deng munyd i ddeg y boreu yr oedd y ddau heddweis - Jones a Thomas - wedi gweled dau ddyn yn dod i gyfeiriad y gwesty, sef diffynydd a Mr Edward Jones. Ar ôl edrych o gwmpas am beth amser aeth Griffith Thomas i mewn i'r hotel a daeth yn ôl yn mhen ysbaid gyda photeli cvvrw yn ei logellau. Yr oedd y ddau yn myned i gyfeiriad y mor pan y daeth y plismyn o'u cuddle.
Tystiodd yr Heddwas Thomas Jones ei fod ef a'r Heddwas Robert Thomas yn gwylio y Victoria Hotel ar y boreu Sul dan sylw. Gwelodd dri dyn yn dod i gyfeiriad yr hotel. Bu Griffith Thomas ac Edward Jones yn sefyll o flaen yr hotel am ysbaid. Yna gwelsant Griffith Thomas yn myned i mewn, a phan y daeth allan galwasant ar ei ôl. Aeth Edward Jones yn ei flaen gan sylwi nad oedd a wnelo ef a'r busnes o gwbl. Aethant â Griffith Thomas i mewn i'r hotel a chawsant dair potel o gwrw yn ei bocedi. Tynasant hwy allan yn ngwydd Mrs Jenkins.
Dywedodd Mrs Jenkins ei bod wedi gweled y dynion yn sefyll o flaen y drws a thybiodd y buasent yn hoffi cael cwrw a galwodd hwy i mewn a rhoddodd y poteli iddynt.
Dywedodd Griffith Thomas wrthynt fod Mrs. Jenkins wedi ei alw i mewn i gael y ddiod.
Yn ateb i Mr Nee dywedodd fod Mrs Jenkins wedi dweyd ei bod dan yr argraff fod ganddi hawl i roddi diod, ond nid i'w werthu. Nis gwyddai fod Griffith Thomas yn arfer a myned yno ar y Sul i gyn- orthwyo. Ategwvd hyn gan yr Heddwas Thomas. Tystiodd Edward Jones, Edward Street, Pwllheli. ei fod wedi gweled Griffith Thomas a dyn arall yn sefyll o flaen yr hotel a clywed Mrs Jenkins yn galw ar G. Thomas i mewn. Pan ddaeth allan gwelodd ddau heddwas yn dod atynt, ac aeth ef ymaith. Yn ateb i Mr Nee dywedodd ei fod ef yn arfer sefyll ar yr heol bob Sul. Yr oedd ganddo hawl i sefyll yno. Yr oedd yn talu llawn digon o dreth. Gwyddai fod Griffith Thomas yn arfer a gweithio yn yr hotel ar y Sul.
Tystiai y Rhingyll Lloyd ei fod wedi cyhuddo Mrs Jerkins ar Hydref y 7fed, ac iddi hithau ddweud wrtho fod G. Thomas yn arfer a gweithio yno ar y Sul. Galwodd arno i mewn i ddweud nad oedd ganddi waith iddo a rhoddodd anrheg o dair botel beint o gwrw iddo.
Dywedodd Mr Nee mai dyna yn hollol oedd ei amddiffyniad ef. Yr oedd y dyn yn arfer a myned yno i gynorthwyo bron bob Sul. Gan nad oedd gan Mrs Jenkins waith iddo y boreu hwn gwnaeth hi anrheg o dair botel gwrw iddo. Nid oedd wedi eu gwerthu o gwbl ac ni yfwyd hwy yn y tŷ.
Dadleuai Mr W. George nad oedd angen profi fod y ddiod a werthid wedi talu am dani ar y pryd nac wedi ei hyfed yn y tŷ. Rhoed tystiolaeth gan Mrs Jenkins, yr hon a ddywedai ei bod yn cadw masnach ers naw mlynedd, ac ni bu cyhuddiad yn ei herbyn o'r blaen. Yr oedd o'r farn fod ganddi hawl i roddi diod yn anrheg ar y Sul. Ni bu iddi wneyd masnach ohono o gwbl. Yr oedd Griffith Thomas yn arfer dod yno bron bob dydd ar hyd yr wythnos. Yr oedd yn gwsmer cyson yn y tŷ. Cadarnhawyd hyn gan Griffith Thomas, yr hwn a dystiodd ei fod yn arfer a myned i weithio i'r hotel ar y Sul ers dwy neu dair bynedd. Nid oedd ef wedi cytuno â neb i fyned i yfed y poteli i Ian y mor y Sul dan sylw. Byddai Mrs Jenkins yn talu cyflog iddo am ei waith, a byddai yntau yn galw yno bob boreu Sal i edrych a fyddai ei angen. Nid oedd yn wir fod yr un o'r dynion eraill yn gwylio o'r tu allan tra y bu ef i mewn. Rhoed tystiolaeth bellach gan Mrs E. Hughes.
Ar ôl ymneillduo am beth amser bu i'r fainc ddirwyo Griffith Thomas i 10s a Mrs. Jenkins i 3p ynnghyd a gini i'r cyfreithiwr erlynol.