PRIODAS HAPUS.

Ddydd lau, yng Nghapel Mawr, Criccieth, cymerodd priodas le rhwng Miss Annie Owen, Police Station, PwIIheli, merch Mrs. a'r Arolygydd Owen a Mr. J. T. Williams, mab y Parch. Thomas Williams a Mrs. Williams. The Elms, Pwllheli.

Gwasanaethwyd gan y Parch. John Hughes, B.D., Bangor, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. C. Rowlands, cofrestrydd.

Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad (yr Arolygydd Owen.) Gwasanaethwyd ar y briodferch gan Misses Sally a Betty Owen (chwiorydd), tra y gweithredai Mr. Owen Parry, Avallon, Pwllheli, fel gwas.

Mwynhaodd y cwmni o foreubryd priodasol yn y George Hotel, Criccieth.

Yr oedd yn bresenol, heb- law y rhai a enwyd uchod, y Parch. Thomas Williams (tad y priodfab), Mrs. Parry, Avallon (chwaer), a Miss Thomas, Police Station, Criccieth.

Ymadawodd y pâr ieuainc am eu gwyliau priodasol i Bettwsycoed. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a drudfawr.

Yr Herald Gymraeg 20/04/1915