Un Garw ydyw E R.
Gwyr pawb yng Nghymru os nad Lloegr hefyd, mai at Mr. Evan R. Davies, Clerc Trefol Pwllheli, y mae y ddwy lythyren uchod yn cyfeirio.Un o'r gwyrthiau diweddaraf a wnaeth ef ydyw gweithio allan gynllun trwy yr hwn y gwneir Parade a ffordd o'r South Beach i'r West End am draul o tua 4,000p. Mae wedi llwyddo gael gan Fwrdd y Ffyrdd a pherchenogion y tir i ymgymeryd a grym y draul fel na olyga ond 60p y flwyddyn am 10 mlynedd i'r dref.
Ond daw manteision dirfawr i'r dref trwyddo. Bydd yn foddion i ddwyn y dref i fwy o sylw ac i'w gwneyd yn fwy atdyniadol i ymwelwyr nag erioed. Heblaw hyny bydd yr arian a werir a'r gwaith a sicrheir i ddynion yn ystod y gauaf yn fantais fawr i'r dref yn mhob ystyr.
Yr Herald Gymraeg 29/09/1914
Yr Hyn a Wnaeth Mr. E. R. Davies.
AT OLYGYDD YR HERALD CYMRAEG.
Syr,Mewn llythyr a ymddangosodd yn y "Carnarvon and Denbigh Herald" yr wythnos diweddaf sylwyd fod y Cadfridog Owen Thomas, sydd yn ymgeisydd am y sedd, wedi bod yn gweithio tra yr oedd eraill yn siarad.
Nid teg y sylw hwn, a rhaid nad yw y sawl a'i gwnaeth yn gwybod am yr hyn a wnaed gan rai o'r ymgeiswyr eraill. Wele ychydig fanylion am yr hyn a wnaeth Mr. E. R. Davies, yr hwn, fel y dywewyd eisoes, sydd ddyn ieuanc egniol a gweithgar, yn Gymro trwyadl, ac yn siaradwr hwyadl yn Saesneg ac yn Gymraeg. Anturiaf ddyweyd os yr etholir ef yn Aelod Seneddol na fyad ei well yn Nhy'r Cyffredin.
Pan yn 21ain mlwydd oed etholwyd Mr. Davies yn aelod o'r Bwrdd Ysgol, a phan yn 22ain oed yr oedd yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid. Bu yn aelod am naw mlynedd, ac yn ystod yr amser hwnw bu yn is-gadeirydd, ac yn aelod o'r Pwyllgor Trethiant. Pan yn 23ain oed etholwyd ef yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli, ac, yn y flwyddyn ddilynol, yn aelod o Gyngor Sir Arfon. Pan yn 27ain mlwydd oed penodwyd ef yn henadur ac yn ystod yr holl gyfnod hwn bron, bu ar Bwyllgor yr Heddlu, Pwyllgor Trethiant y Sir, a phwyllgorau eraill yn eu tro. Pan yn aelod o Bwyllgor yr Heddlu gweithiodd yn selog i amddiffyn hawliau chwarelwyr Bethesda adeg y streic fawr. Llwyddodd i gael grants o £ 27,500 at Borthladd Pwllheli; £36,000 at Goleg Normalaidd Bangor; £4,000 at ysgolion anenwadol ym Mhenmachno, Llanfairfechan, Chwilog, a Phentreuchaf; £3,000 at Ysgol Amaethyddol Madryn; £ 7000 at ffordd newydd o Golwyn Bay i Landudno, ac oddeutu £2,000 at gynllun y parade ym Mhwllheli.
Bu am flynyddau yn anerch cyfrinfaoedd Undeb y Chwarelwyr; cyfieithodd y Ddeddf lawn i Weithwyr i'r Gymraeg; mae wedi gwneud llawer i gael gwell addysg i blant y werin, meddyginiatth i'w clwyfau, a moddion ymborth i blant y diwaith. Yn ei ymdrechion o blaid yr ymdrechleoedd Cymreig nid yw yn ail i neb. Sefydlodd Gynghrair o 80 o'r prif ymdrochleoedd, a'r haf diweddaf aeth a chant o brif ddynion Ffrainc a Belgium ar daith drwyddynt. Cafodd gyfleusterau teithiol rhad gan gwmniau y rheilffyrdd, a threfnodd i'r Llywodraeth roddi derbyniad swyddogol i'r ymwelwyr urddasol.
Bu hefyd yn foddion i gael milwyr o drefi Lloegr i Gymru. Onid yw yr uchod yn dangos fod Mr. E. R. Davies wedi bod yn gweithio, ie, a gweithio yn ddygn, tra yr oedd eraill yn siarad, neu yn breuddwydio?
Ymhellach, llwyddodd Mr. Davies i gael gan yr awdurdodau cyfrifol i fabwysiadu moddion i roddi triniaeth feddygol i blant y sir. Penodwyd specialist gan y Pwvllgor Addysg. i'r hwn y mae Mr. Davies yn ysgrifenydd, ac ymwelodd y boneddwr hwnw a'r sir ddwy waith yr wythnos yn ystod y deuddenig mis diweddaf, a llwyddodd Mr. Davies i gael gan y Bwrdd Addysg yn Llundain i dalu hanner y costau. Beth fu canlyniad hyn i gyd? Cafodd oddeutu mil o blant bychain y werin bobl ar hyd a lled y sir driniaeth feddygol. Onibai am y trefniant hwn ni fuasai y rhai bychain hyny yn cael yr un chwareu teg a phlant eraill.
Nid oes angen ymhelaethu. Gwel yr hwn a fyn weled nad oes sail o gwbl i'r hyn ddywedodd yr ysgrifenydd yn y "Carnarvon and Denbigh Herald" mor bell ag y mae a fyno a Mr. E. R. Davies.
Yr eiddoch,
CHWAREU TEG.
Yr Herald Gymraeg 25/05/1915
Yr hyn a wnaeth Mr E. R. Davies.
AT OLYGYDD YR "HERALD GYMRAEG."
Syr,Yn yr "Herald" am yr wythnos ddiweddaf ymddangosodd llythyr anferth mewn atebiad i lythyr "Arfonwr," yn galw sylw neillduol at yr hyn a ddywedodd "Arfonwr" o berthynas i'r grants, y rhai a sicrhawyd trwy ymdrechion Mr E .R. Davies.
Gan fod "Arfonite'' yn ceisio rhoddi ar ddeall mai fel Ysgrifenydd Trefol Pwllheli, ac am ei fod yn derbyn tâl am ei waith, ac felly yn ddy ledswydd arno y bu iddo sicrhau y grants o 27,500p tuagat borthladd Pwllheli, a gaf fi ddweyd nad oedd raid iddo fel ysgrifenydd trefol ymgymeryd a hyn o gwbl, ond oherwydd cariad a lles y dref, ymgymerodd a rhoddi ei holl ymdrechion ar waith i argyhoeddi y Llywodraeth o hyn, a thrwy hyny y sicrhawyd y cyfryw.
Y mae yn wir fod yn rhaid i swyddogion y Llywodraeth gael eu boddloni fod y cais yn un rhesymol, ond er hyny a ydyw "Arvonite" a'i gyffelyb erioed wedi meddwl pa mor daer y mae yn rhaid curo cyn cael unrhyw adran o'r Llywodraeth i symud? Y mae yr un peth i'w ddweyd o berthynas i grants eraill a sicrhawyd. Gan fod "Arvonite" yn dweyd mai peth hawdd yw addaw gwneyd pethau mawr pan y mae eisieu cael dylanwad y rhai sydd yn ymwneyd a masnach neillduol, efallai y goddefwch i mi ddweyd mai nid wedi addaw gwneyd pethau yn y gorffenol y mae Mr E. R,. Davies, ond "wedi cyflawni pethau" na addawodd erioed.
Gofyna "Arvonite" pa beth y mae Mr E. R. Davies wedi ei wneyd tuag at yr achos mawr Rhyddfrydol. Os gall "Arvonite' edrych yn ol 15 neu 20 mlynedd bydd iddo ganfod beth a wnaeth. Beth am frwydr fawr Chwarel Penrhyn? Onid oedd efe yn un o'r rhai a wnaeth ei oreu ar ran y chwarelwyr? Heb ddim os, y mae Mr E. R, Davies yn ddyn cyfiawn, ac yn sicr y bydd Arfon ar ei mantais os y bydd iddi ei ethol.
Yr eiddoch,
ETHOLWR.