Marwolaeth y Parch David Evan Davies Pwllheli.
Brawychwyd tref Pwllheli foreu Gwener gan sydynrwydd marwolaeth y Parch David Evan Davies, Glyn, South Beach. Yr oedd Mr. Davies yn y swyddfa y diwrnod cynt, ac yr oedd wedi bwyta ei frecwast a chadw y ddyledswydd deuluaidd pan fu farw. Yr oedd yn 72 mlwydd oed, a chydnebydd pawb ei fod yn un o'r gweithwyr mwyaf diflino ac egniol fu yn llafurio yn ngwinllan Crist erioed. Yr oedd yn pregethu yr Efengyl bob Sabboth er pan oedd yn 17 mlwydd oed, a chan,ei fod bob amser yn dilyn rhyw alwedigaeth rall yn ystod dyddiau'r wythnos nid oedd yn bosibl iddo gael dim amser i gael seibiant.Er na fu yn weinidog taledig ar unrhyw eglwys bu yn gwasanaethu fel bugail ar amryw o eglwysi, megys Nantgwtheyrn, Salem, Pwllheli, a South Beach, Pwllheli. Efe fu yn foddion i sefydlu yr achos Methodistaidd yn Nantgwtheyrn ac yn South Beach, ac yr oedd yn cadw y seiadau a gofalu am wahanol fuddianau yr eglwys olaf hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn nodedig am ei ddawn ai allu fel arholydd. Bu yn IIanw y swydd o arholydd y cyfarfodydd ysgolion trwy Leyn ac Eifionydd ar hyd ei oes. Efe oedd arholydd presenol cyfarfod ysgolion dosbarth Pwllheli. Yr oedd hefyd yn ddirwestwr eiddgar a bu yn ffyddlon i gadw temlyddiaeth dda yn fyw ym Mhwllheli trwy gyfnodau isel a dilewyrch iawn yn ogystal a chyfnodau o lwyddiant. Yr oedd yn ddarllenwr mawr a'i ddull o ymadroddi yn hwyadl ac effeithiol iawn. Nid oedd Ryddfrydwr mwy pybur nag ef i'w gael a bu o ddefnydd mawr fel siaradwr yn yr etholiadau cyffredinol o bryd i bryd.
Yr oedd ganddo gyfrifoldeb mawr fel rheolwr dros Gymru i Gwmni Yswiriol y Mutual, New York.
Yr oedd wedi priodi ers 49 mlynedd, ac y mae y weddw a chwech o'r plant yn fyw, sef Mr. Evan R. Davies (Clerc Trefol Pwllheli, ac Ysgrifenydd Addysg y Sir), Mr. Cradoc W. Davies, cyfreithiwr, Pwllheli; Mr. W. T. Davies, rheolwr Ariandy y Metropolitan, Pwllheli; Mrs. Rees, Caerdydd'; Miss Vida Davies, a Miss C. Davies, Pwllheli. Cymer yr angladd le heddyw (dydd Mawrth) cyhoeddus.
Herald Gymraeg 22/09/1914
MARW'R PARCH. DAVID EVAN DAVIES, PWLLHELI.
Gyda gofid dwys y cofnodwn farwolaeth y Parch David Evan Davies, yr hyn gymerodd le fore Gwener diweddaf. Yr oedd ar fin gadael y tŷ i'w swyddfa yn ôl ei arfer pan y syrthiodd i lawr yn farw gan glefyd y galon. Yr oedd yn 72 mlwydd oed.Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r dynion mwyaf gweithgar ac egniol. Pregethai er pan yn ddwy ar bymtheg oed, a bu'n gweinidogaethu ar eglwysi Nant Gwrtheyrn, Salem, Pwllheli, a South Beach. Efe sefydlodd yr achos yn y lle cyntaf a'r olaf enwyd, a gofalai am yr achos yn South Beach hyd ddydd ei farw. Ond rhoddai ei wasanaeth i'r eglwysi yn ddi-dal.
Er's rhai blynyddau bellach llanwai y swydd bwysig o Reolwr dros Gymru i'r Mutual Life Insurance Company, ond er y gofal a'r galw oedd arno ynglyn a'r swydd hono gweithiodd gymaint unrhyw dri o ddynion gyda phob achos daionus. Nis gall neb ddirnad gwaith a wnaeth yn ystod ei oes ymhlaid dirwest, Rhyddfrydiaeth, a gwahanol ddiwygiadau cymdeithasol. Bu'n arholydd y Cyfarfodydd Ysgolion yn Lleyn ac Eifionydd am flynyddau lawer, ac nid oedd ail iddo fel arholwr. Yr oedd yn ddarllenur mawr, yn meddu ar grebwyll cryf, a barn eang. Casai bob rhagfarn a chulni.
Cydymdeimlir yn ddwys a'i weddw a'i blant, o'r rhai y mae chwech yn fyw, sef Mr. Evan R. Davies, yr hwn heblaw bod yn Ysgrifenydd Tref Pwllheli sydd yn llanw swyddi pwysig eraill Mr. W. Cradoc Davies, cvfreithiwr, Pwllheli; Mr. W. Talmage Davies, goruchuyliwr Ariandy'r Metropolitan, Pwllheli; Mrs. Rees, Caerdydd, a Miss Vida Davies a Miss Dilys Davies, Pwllheli.
Cymerodd yr angladd i ddynion yn unig, le heddyw (ddydd Mawrth) yn mynwent newydd Denio.
Yr Udgorn 23/9/1914
THE LATE Rev. D. E. DAVIES.
The Rev. David Evan Davies, Pwllheli, died with tragic suddenness on Friday morning. He had breakfasted and was about leaving his residence at the South Beach for business when he collapsed in the hall from heart failure, and died almost immediately.The news of his death caused a sensation in the town and deep sympathy is felt for his widow and six children - three sons and three daughters. His sons are Mr. Evan R. Davies, town clerk, Mr. W. T. Davies, manager of the Metropolitan Bank (now the L.C. and M. Bank) Pwllheli, and Mr. Cradoc Davies, deputy town clerk. Mr. D. E. Davies was born close to Pwllheli seventy-one years ago. His ancestors on both sides were prominent people in the district and, like himself, full of life and energy.
His first school was a private school kept by the Rev. William Griffith at Pwllheli. As a young man he attended Clynnog Grammar School then under the control of the eminent poet, Eben Fardd, and when he was about eighteen or nineteen he entered Bala Theological College and was duly ordained to the Calvinistic Methodist ministry but declined to undertake a pastorate.
He, however, accepted preaching engagements, and preached regularly every Sunday in different parts of the country, his sermons being marked by much ability and quiet humour. Soon after leaving Bala College he started on insurance work as the representative of the Provincial Insurance Company of Wrexham, and in 1866 was appointed secretary of the Lleyn and Eifionydd Building Society, holding that position for twenty-seven years. He also represented the Alliance at that time, the Provincial being merged in the larger Company.
Subsequently, Mr. Davies became connected with the Mutual Life Insurance Company of New York and was appointed an inspector for West Wales. He was very successful and in 1895 was appointed manager for North Wales. At that time he was an alderman at Pwllheli Town Council and had represented the Borough on the Carnarvon County Council for many years, and did valuable work in the developing of Pwllheli as a seaside resort. A good story is told of him about this time. Friends asked him it he would allow his name to be put up for the mayoralty of Pwllheli; but he objected, remarking that he had eight reasons for declining the honour, namely, a wife and seven children.
He gave up public life altogether when he was appointed North Wales manager to the "Mutual," and in 1903 he was promoted to be district manager for the whole of Wales and Hereford. For some time he had to live at Cardiff, but the management eventually allowed him to come back to the old district to live whilst still working the same large territory.
Mr. Davies was an earnest temperance reformer and an enthusiastic Sunday School worker. He was prominently identified with the Welsh Grand Lodge of Good Templars and was one of those who founded the Welsh purity movement. It will be in his capacity of catechiser or "holwr ysgol" he will be long remembered in Pwllheli district. He was the official catechiser of the C.M. District Sunday School Union and was an ideal "holwr." He had a gift for cornering and drawing out the people questioned and his sparkling humour contributed largely to his catechising skill.
His death will be a distinct loss to the little C.M. cause at South Beach in which he took an enthusiastic and strenuous interest.
Cambrian News 25/9/1914
ANGLADD Y PARCH D. E. DAVIES.
Ddydd Mawrth daeth tyrfa luosog o feibion o bob rhan o'r wlad, yn ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'r diweddar Barch David Evan Davies, Pwllheli, yr hwn fu farw yn dra sydyn y dydd Gwener blaenorol yn 72 mlwydd oed. Cynhaliwyd gwasanaeth i gychwyn yng nghapel South Beach, dan lywyddiaeth y Parch John Hughes, B.A., B.D., Salem, yr hwn, ar ôl i'r Parchn. John Hughes, Edeyrn, a John Rhydderch, Pwllheli, arwain y gwasanaeth dechreuol, a sylwodd eu bod yn claddu gweithiwr caled ac un oedd wedi codi torf o weithwyr yn yr eglwysi y bu mewn cysylltiad a hwy. Dyna oedd y dystiolaeth yn Salem a South Beach.Yr oedd trwy ei lafur a'i fedr yn y cyfarfodydd darllen a'r gymdeithas el lenyddol, wedi dysgu eraill, a'u symbylu i weithio. Yr oedd yn ddiddadl yn un o'r colofnau cryfaf o dan yr achos yn South Beach. Sylwodd y Parch David Roberts, Abererch, fod yn anhawdd sylweddoli fod gwr mor fyw a'r Parch D. E. Davies wedi dystewi am fyth. Beth bynag yr ymaflodd ynddo i'w wneuthur fe'i gwnaeth a'i holl galon. Yr oedd wedi bod yn arweinydd diogel gyda dirwest yn y wlad. Gwnaeth lawer i sefydlu yr allor deuluaidd mewn teuluoedd, ac yr oedd yn ffaith darawiadol mai yr "Amen" ar derfyn y ddyledswydd deuluaidd oedd y gair olaf ddaeth dros ei wefusau yn y byd hwn.
Rhoddodd Plenydd air uchel iddo, fel gweithiwr gyda dirwest, a datganodd Mr. S. Maurice Jones, diacon, yng nghapel Moriah, Caernarfon, fod yn ofidus iawn gan yr eglwys ym Moriah glywed am ei golli, am ei fod wedi bod yn weithiwr egniol a chymeradwy iawn ym Moriah tra y bu yn aros yng Nghaernarfon. Cymerwyd rhan ym mhellach yn y gwasanaeth yng nghapel Denio gan y Parchn. D. O'Brien Owen, J. Puleston Jones, M.A., John Owen, M.A., a Griffith Parry.
Y prif alarwyr yn yr angladd oeddynt: Mri. Evan R. Davies {Clerc Trefol, Pwllheli), W. Talmage Davies (Rheolwr Ariandy y Metropolitan, Pwllheli:, W Cradoc Davies, cyfraithiwr, Pwllheli (meibion); Evan D. Rees (mab-yn-nghyfraith), y Parch William Davies. Trefor (brawd), y Parch E. W. Davies, Ton, De Cymru (nai), Mr. R. H. Davies, B.Sc., Aberystwyth (wyr); Owen Roberts, Berth Aur; Cynan Davies, a Wyn Davies (wyrion); R. O. Roberts, Llawrdref, Llangian; Robert Evans, Penymaes; J. Moreton Davies, Pencaenewydd; Edward Davies, Edward Davies (ieu.), Llithfaen. Blaenorid yr orymdaith gan y meddygon Dr. Jones Evans, D.H. (Maer), a Dr. Wynne Griffiths (cyn-faer). Dilynid hwy gan gynrychiolwyr y cyfarfod ysgolion yn cael eu blaenori gan Mr. T. J. Griffiths (llywydd), y Cynghorydd W. Wynne Owen (ysgrifenydd), a Mr. Henry Roberts (trysorydd). Hefyd yr oedd Mr. R. O. Williams (Ap Plenydd) vn bresenol ar ran Cymdeithas Ddirwestol Lleyn ac Eifionydd, a chymdeithasau eraill. Yr oedd hefyd yn bresenol Dr. Livingstone Jones, Criccieth; Robert Hughes Jones, Colwyn Bay; Mr. William Husband, Ton; Syr John Roberts (Clerc y Cyngor Sir); Mr. M. H. Williams (trysorydd y sir); Mr. Rowland Lloyd Jones (cynllunydd y sir); Mr. Thomas (ysgrifenydd cynorthwyol y Swyddfa Addysg); Henaduriaid Maurice Jones, Abel Williams, R. Ifor Parry, W. Eifl Jones, W. Anthony, Capten Hugh Griffiths, Criccieth; Mri. William Owen, Tydweiliog; Griffith Jones, Penybont; William Hughes, Efailnewydd; Henry Jones. Pistyll; O. T. Williams, U.H., ac O. T. Evans, Criccieth ; Mri. Hugh Pritchard Houghton Davies,. ac O. Robyns Owen, cyfreithwyr; Charles S. Roberts (arolygydd). John Ellis (trysorydd), Owen Owens, rheolwr Ariandy y London City and Midland; Mr. D. T. Lloyd, rheolwr Ariandy y National Provincial; D. H. Williams, M.A., YsgoI Ganolraddol; Evan Jones Griffiths, Ysgol Troedyrallt; W. Williams Jones, oriadurwr, Caernarfon; John Jones, Caernarfon; G. Cornelius Roberts, D. Lloyd Jones, Samuel Williams, R Barker Jones, J. G. Jones, R. Murray, Hugh Griffiths, Richard Jones, argraffvdd; Evan Jones, Caerhydderch; W. Lewis, Leeds House; Mr. D. Caradog Evans, argraffydd; J. Evans Hughes, Griffith Roberts, Maes; E. J. Hughes, High Street; R. Thomas, Robert Evans, Llanaelhaiarn, Pioneer; T. Denman. Maes; Dr. R. Parry, Caernarfon; Evan Parry (llywydd Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd); R. O. Roberts, Llanaelhaiarn, William Evans, Llithfaen, Owen Jones, Aberdaron; J. Summers, Pwllheli; W. Jones, Claremont; Parchn. Roberts Jones, Rhosfawr; Mostyn Jones, Pwllheli; R. Roberts, Efailnewydd; Emyr Hughes, Llanbedrog; T. J. Jones, Brynmawr; William Jones, M.A., Fourcrosses; Sydney Morris, Llithfaen, J. W. Jones, B.A., Tydweiliog; W. J. Lloyd, B.A., Bwlch; (Wynne Williams, Llanystumdwy; Henry Hughes, Bryncir; Edward Joseph, Garn; John Jones, South Beach; G. Parry Hughes, Morfa Nefyn; John Jones, Nantlle House; D .Lloyd Humphreys, Cardiff Road; T H. Rowlands, Dinorwig House; O. Llewelyn Evans, J. T. Owen, William Hughes, Caxton House; D. J. Williams, Llecheiddior; W. J. Williams, ac R. Francis Williams, Efailnewydd Thomas Jones, Rhydyclafdy; John Roberts, Penprys; Robert Hughes, London Temperance, Pwllheli; Capten Humphreys, Ala Road; J. Owen Jones (Arifog), W. E. Roberts, fferyllydd Simeon R. Jones, Union Offices; Cynghorydd T. Williams Thomas, Woolen Depot; O. Ellis Jones, Arfryn; John Roberts, Robert Owen, Pistyll; D. Jones. Nefyn; Owen Jones, Cefn Pentre; Robert Jones, Castell Mawr; William Davies, Llithfaen; Simon G. Evans, Birkenhead; Willie Jones, Plasbryn Farm, Caernarfon; Capten Griffith. Pencaenewydd; F. E. Young, John Williams, Llys Afon; W. Morris Williams, Thomas Griffiths, Melbourne House; Hugh Williams, Shop Goch; Cynghorydd R. Albert Jones, Samuel Evans.
Dymuna Mrs. Davies, y weddw, a'r teulu gydnabod derbyniad llu mawr o lythyrau yn cydymdeimlo a hwy yn eu profedigaeth; yn cynwys llythyrau oddiwrth eglwysi South Beach, Salem, a Penmount, Pwllheli, Cwmni Yswiriol y Mutual, ac eraill. Yn yr ynadlys ym Mhwllheli ddydd Mercher, ar gynygiad Cyrnol Lloyd Evans a chefnogiad Mr. W. Anthony, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth.
Anfonwyd nifer fawr o bleth-dorchau gan aelodau capel South Beach, Cwmni Yswiriol y Mutual Mrs. Davies, y weddw, Mr. a, Mrs. E. R. Davies, Mr. a Mrs. W. Cradoc Davies, Mr. a Mrs. Talmage Davies, Wynn a Ruth Davies, Mr. a Mrs. Mason, Walsall. Rita, Katie, a George (wyrion), plant ac eraill.
Herald Gymraeg 29/09/1914
PWLLHELI ANGLADD Y DIWEDDAR BARCH. D. E. DAVIES.
Mewn colofn arall gwelir adroddiad am angladd y diweddar Barch D. E. Davies.Yr oedd y rhai a ganlyn hefyd yn bresenol:— Mri William Hughes, Awelon; Owen Williams, South Beach; John Jones, gorsaf feistr; Edward Williams, Glasfryn; W J. Williams, Efailnewydd; Frank Williams, Fourcrosses.
Gofelid am y trefniadau gan Mri. R. Isaac Jones a'i fab.
Herald Gymraeg 29/09/1914
CLADDEDIGAETH Y PARCH. D. E. DAVIES, PWLLHELI.
Cymerodd claddedigaeth y diweddar Barch. D. E. Davies le dydd Mawrth, pryd y rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent gyhoeddus y dref yn Denio.Am hanner awr wedi un cynhaliwyd gwasanaeth yng nghapel South Beach. Llywyddwyd y gweithrediadau gan y Parch. John Hughes, B.A., B.D., gweinidog Salem. Wedi canu "Mae Duw yn llond pob lle," ac i'r Parch. John Hughes, Edeyrn, ddarllen rhanau o'r Ysgrythyr, arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. J. Rhydderch (A.).
Y Llywydd a ddywedai eu bod yno i dalu parch i goffadwriaeth brawd fu yn flaenllaw iawn, ac yn weithiwr difefl o blaid achos y Gwaredwr. Pa le bynnag y bu yr oedd yn gweithio. Yn Salem lle y bu am rai blynyddan yr oedd yn golofn yr achos yn y lle. Gallai ddweyd fod yn Salem heddyw gymeriadau amlwg sydd yn dystiolaeth i effeithiolrwydd ei wasanaeth. Ym Moriah, Caernarfon, drachefn bu yn weithiwr, ac yr oedd brawd yno yn y cyfarfod yn cynrychioli eglwys Moriah er amlygu gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Yr oedd eglwys South Beach yn dystiolaeth arbennig o'i sel a'i weithgarwch. Yr oedd pawb o honynt yn teimlo mai yn y capel hwnnw y dylai y gwasanaeth coffa gael ei gynal yno y treuliodd ei flynyddoedd mwyaf profiadol yn y gwaith. Yr oeddynt yn cyfarfod yn y deml ag yr oedd un o'i cholofnau wedi ei symud. Teimlai llawer golled ar ei ôl, ac am ei wasanaeth i achos Duw. Eu hamcan y diwrnod hwnnw wrth wneud coffa am y brawd oedd gogoneddu Duw nid dyn. Yr oedd llawer o bethau ynglyn a bywyd y brawd fuasai yn help iddynt foli Duw. Bwriadai alw ar dri o frodyr i wneud ychydig sylwadau, sef y Parch. David Roberts, Abererch, hen gydnabod iddo Mr. S. Maurice Jones fel cynrychiolydd eglwys Moriah, Caernarfon, lle y treuliodd rai blynyddoedd; a Mr. H. J. Williams (Plenydd), a fu yn cydweithio ag ef ynglyn ag achos dirwest am dros banner can mlynedd.
Y Parch. David Roberts, Abererch, a ddywedai mai eistedd yn ddistaw a ddymunasai ef, oblegid fod ymadawiad y brawd wedi creu teimladau cymysglyd yn ei fynwes. Yr oedd yn ei adnabod ers dros 47 mlynedd, ac wedi dal cymundeb agos ag ef yn ystod y blynyddoedd hynny. Yr oedd yn anhawdd sylweddoli fod Mr. Davies wedi marw. Yn fyw y gwelodd ef ddiweddaf yng Nghyfarfod Misol Golan— ac yn fyw iawn i weithrediadau y Cyfarfod Misol, ac yn neilltuol felly i un mater fu dan sylw. Byw oedd y diwrnod hwnnw yn ei deimlad ef, ac yn fyw anrhaethol uwch na phan welodd efe ef o'r blaen— yn fyw iddo Ef—yn fyw gyda'r Iesu. Yr oedd dull yr ymadawedig a'i gymeriad yn ddiameu yn dysgu gwersi ymarferol pwysig iddynt, a hyderai y caffent ddoethineib i feddwl amdanynt. Yr oedd iddo ragoriaethau lawer, ac yr oedd cymeriad dyn i'w adnabod wrth ei ragoriaethau ac nid wrth ei ddiffygion. Nid oddiwrth y brychau oedd ar wyneb yr haul yr oeddynt i adnabod cymeriad yr haul, ond oddiwrth y goleuni a wasgarai. Adnabyddem gymeriad ein gilydd oddiwrth ein rhagoriaethau. Yr adnodau a ddaethai i'w feddwl ef ynglyn a Mr. Davies oedd, "Pa beth bynnag yr ymaflo dy ddwylaw ynddo i'w wneuthur gwna a'th holl egni," a "Yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth." Fe wnaeth ei oreu—cerdded ar ei oreu, gyda'i oruchwylion—ar ei oreu. Fe wnaeth ei oreu yn gymdeithasol, gyda Chymdeithasau Llenyddol a Chyfarfodydd Darllen i hyrwyddo ieuenctid y wlad. Tystiolaeth un heddyw fu yn ddisgybl iddo flynvddau lawer yn ôl ydoedd na fu ei gyffelyib fel athraw cyfarfod darllen. Gweithiodd ei oreu i wrteithio ei hun drwy ddarllen a myfyrio gogyfer a'r cyfarfodydd hynny. Gyda Dirwest a Phurdeb, a Themlyddiaeth Dda gwnaeth waith mawr.
Ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd yn arweinydd cyhoeddus gyda dirwest yn y wlad. Gwnaeth waith mawr drwy ymddiddanion personol. Gallai nodi un ffaith nad oedd yn wybyddus i bron neb. Yn yr adeg yr oedd Temlyddiaeth Dda yn ei bri daeth Mr. Davies i gyffyrddiad ag un oedd yn feddwyn cyhoeddus yn y wlad. Gofynodd Mr. Davies iddo a wnai efe wneud un peth iddo. Tybiodd y meddwyn mai gofyn iddo arwyddo dirwest yr oedd, ond sicrhawyd ef nad hynny oedd arno eisiau iddo addaw. Wedi deall hynny rhoddwyd yr addewid, ac yna cafodd draethodyn dirwesol, a gofynwyd iddo ei ddarllen. Canlyniad hyn oedd i'r meddwyn ddarllen y traethodyn a hynny amryw weithiau, ac effeithiodd gymaint arno fel y penderfynodd nad yfai mwy. Y Sadwrn tâl cyntaf wedi hynny aeth a'r oll o'i gyflog adref i'w briod, a bu yno lawenydd mawr. Ni phrofodd y dyn oedd gynt yn feddwyn yr un dafn o ddiod feddwol byth mwy, daeth yn aelod eglwysig, magodd deulu yn ofn ac athrawiaeth yr Arglwydd, a bu farw mewn tangnefedd. Nid oedd yr hanesyn hwn ond un o lawer o engreifftiau.
Gweithiodd hefyd gyda'r Allor Deuluaidd, ac nid oedd deulu yn y wlad y deuai i gyffyrddiad ag ef na ddygai y mater hwn i sylw, Nodweddiadol iawn oedd mai "Amen" yr addoliad teuluaidd oedd y gair olaf ddaeth dros ei wefusau. Pregethodd lawer a hynny dan lawer o anfanteision. Yr oedd ganddo syniad uchel iawn beth ddylai pregeth fod, ac yr oedd hynny ganddo er y dechreu. Nodai ddwy engraifft i ddangos y syniad amdano fel pregethwr. Pregethai y Sul cyntaf pan ar ei flwyddyn brawf gyda'r hybarch Griffith Hughes, Edeyrn, ym Mynydd Nefyn. Yn y tŷ capel cyn mynd i mewn i'r Capel yr oedd yr hen frawd yn rhoddi cyfarwyddiadau iddo ar y rhan oedd i'w gymeryd a'r amser a ganiateid iddo, "a chofia machgen i," meddai Mr. Hughes, "y byddaf yn gwrando arnat heddyw nid fel pechadur ond fel beirniad." Buasai hynny yn ddigon i dorri calon y rhan fwyaf o honynt, ond nid felly Mr. Davies. Aed i'r capel ac aeth drwy ei ran, ac wedi dychwel yn ôl i'r tŷ capel dyna yr hen bregethwr yn troi ato ac yn dweyd, "Wel machgen i dydw i ddim am ddweyd yr adnod honno wrthyt ti heddyw, Ti a bwyswyd yn y glorian ac a'th gaed yn brin. Yr wyf fi yn dy gael yn llawn pwysau."
Y Saboth diweddaf yr oedd ef (Mr.Roberts) yn pregethu yn un o deithiau Lleyn, ac yr oedd Mr. Davies yno yn pregethu dair wythnos yn flaenorol, a thystiolaeth y brodyr wrtho ef (Mr. Roberts) ei fod yn mynd yn uwch yn syniad yr eglwys bob tro yr elai yno. Yr oedd wedi pregethu gyda rhyw eneiniad arbennig, nes yr oedd wedi lladd am byth bob rhagfarn oedd yn ei erbyn yn y gymydogaeth. Anhawdd sylweddoli fod y llygad byw wedi cau y tafod parablus wedi sefyll. Gobeithiai y caffent ras i ogoneddu Duw ynddo. Dymunai nawdd y nerf dros ei briod a'i blant, ac hefyd dros yr eglwys yn South Beach— yr eglwys yr oedd ef wedi ei sefydlu yng ngwyneb cymaint o wrthwyneibiad, ac yr oedd ei llwyddiant i'w briodoli i'w lafur a'i ymdrech a'i sêl. Mr. S. Maurice Jones, Caernarfon, a ddywedai mai gwell fuasai ganddo ef gael eistedd i wrando— nid adeg siarad ydoedd. Yr oedd wedi ei anfon ar ran eglwys Moriah lle y treuliodd Mr. Davies tua wyth mlynedd—tymor ag y cyfeiriai Mr. Davies wrth son amdano fel llanerch werdd yn ei fywyd. Yn ystod ei arhosiad gyda hwy ymroddodd Mr, Davies i waith a'i holl allu, ac ymdaflodd i holl wasanaeth yr eglwysi, ac edrychid yn ôl gyda hiraeth amdano gan yr eglwys.
Collodd eglwys Moriah weithiwr difefl pan ymadawodd, ac yr oedd bwlch mawr ar ei ôl, ac yr oedd hynny yn cael ei amlygu y Saboth blaenorol. Dymunai nodded y nef i'r teulu ac i'r eglwys yn South Beach, a hyderai y codid eto ddynion o'r un sel a gweithgarwch ag a nodweddai Mr. Davies.
Mr. H. J. Williams (Plenydd) a ddywedai fod cymaint prudd-der ar ei ysbryd fel na chaniatai iddo ddweyd ond ychydig iawn. Yr oedd yn teimlo ei fod wedi colli cyfaill a gweithiwr difefl. Bu yn cyd- weithio ag ef am agos i hanner can mlynedd, a da oedd ganddo ddweyd na fu yn ystod yr holl flynyddoedd yr un croes-air na chas-air rhyngddynt. Weithiau ynglyn a dirwest byddai arno angen am ddyn gwrol a phenderfynol a'r amser honno byddai yn troi at galon ei annwyl frawd, ac ni chafodd erioed ei siomi. Yr hyn a ymgymerai ef fe'i gweithiai allan yn drwyadl. Gwnaeth hynny ymhob cylch. Yr oedd i Demlyddiaeth Dda urdd-wisg, ac ni lanwyd hi erioed gan ysbryd mwy godidog nag eiddo Mr. Davies. Ond yn awr yr oedd amdo wedi cymeryd lle urdd-wisg. Distawrwydd wedi cymeryd lle brwdfrydedd. Yr oedd Mr. Davies y Saboth cyn y diweddaf yn Fourcrosses mewn Cyfarfod Ysgol, ac yr oeddynt yn teimlo drwy y cyfarfod ei fod yn agos iawn at y nef. Yng nghyfarfod yr hwyr teimlent ei fod wedi mynd mor agos i'r nef fel y synent ei fod wedi dod yn ôl yr oedd wrth ddrws y nefoedd.
Dymunai bob nodded i'w briod a'i blant, a theimlai yn falch fod y plant wedi cael bod o gymaint cynorthwy i wneud bywyd eu rhieni yn fywyd o hyfrydwch a phleser.
Wedi canu 'Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd,' terfynwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch. D. O'Brien Owen, Caernarfon. Yna ffurfiwyd yn orymdaith bob yn dri, Dr. O. Wynne Griffith, Dr. R. Jones Evans (maer Pwllheli), a Dr. Gladstone Jones, yn blaenori, yna y gweinidogion a'r blaenoriaid bob yn dri, a golygfa hardd oedd gweled y dorf enfawr o ddynion yn unig yn cyrraedd o un pen i'r llall i Embankment Road. Yn y capel sydd yn y fynwent darllenodd y Parch. J. Puleston Jones, M.A., ran o'r Ysgrythyr, a gweddiodd y Parch. J. Owen, Criccieth, a chanwyd "Am graig i adeiiadu." Ar lan y bedd darllenodd y Parch. J. Hughes, B.D., ychydig eiriau. a gweddiodd y Parch. G. Parry, Borth, yn neilltuol o afaelgar.