ANRHYDEDDU MILWR O'R DREF.

Llawen genym gael y cyfle o longyfarch Lance Corporal Willie Rowlands, Dinorwic House, ar ei waith yn enill D. S. C. am ei wrhydri digymar ar faes y gwaed yn Ffrainc. Dangosodd wroldeb ac hunan feddiant mawr ar adeg bwysig iawn, a bu yn foddion ei hunan i gadw meddiant o un o'r ffosydd pan oedd ei gyd-filwyr oll wedi syrtho.

Hyd y gwyddom dyma'r milwr cyntaf o'r dref i gael ei anrhydeddu a theitl fel cydnabyddiaeth am ddewrder. Y mae yn Ffrainc er's dwy flynedd, a chyn hyny yr oedd yn athraw yn ysgol Cwm-ystradllyn.

Bydd llu o'i ffryndiau yn falch o anrhydedd y gwron ieuanc, ac eiddunwn iddo wrhydri mwy.

Yr Udgorn 20/06/1917


MILWROL.

Mae Private Willie Rowlands, mab Mr a Mrs Rowlands, Dinorwic House, wedi dod adref o Ffrainc i baratoi ei hun i fod yn swyddog.

Mae ef wedi cael tair blynedd o brofiad mewn ymladd a'r gelyn.

Yr Udgorn 19/12/1917


WEDI EI GLWYFO YN DRWM.

Ddydd Gwener derbyniodd Mr. a Mrs. T. H. Rowlands, Dinorwic House, South Beach, bellebr o'r Amwythig yn eu hysbysu fod eu mab, Second Lifftenant Willie Rowlands, wedi ei glwyfo yn dost ar faes y rhyfel yn Ffrainc, a'i fod mewn ysbytty yno. Ymddengys ddarfod iddo gael ei archolli yn ei arddwrn, ei goes a'i gefn.

Rhyw chwech wythnos yn ôl y sydd er's pan adawodd y wlad hon am Ffrainc ar ôl cwblhau ei hun fel swyddog milwrol. Bu mewn amryw frwydrau celyd ac anioddefol yn Ffrainc, a daeth trwy yr oll yn ddianaf ond y ddiweddaf.

Gobeithiwn nad yw ei archollion yn rhai difrifol iawn, a dymunwn iddo hedd yn ei adfyd, a phob hwylusdod i gyfeiriad gwellhad buan.

Yr Udgorn 02/10/1918