PRIODAS.
Dydd Iau, yng Nghapel South Beach, unwyd mewn priodas Mr. George Rowlands, Dinorwig House, a Miss Catherine Ellen Williams, Bryncrin.Gwasanaethai Mr W. T. Roberts, Mitre Terrace, a Miss E. A. Rowlands (chwaer y priodfab) fel tystion, a'r Parch Thomas Williams yn gweinyddu.
Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad, a chaed gwledd briodasol yn Dinorwig House.