WEDI EI GLWYFO.

Derbyniwyd y newydd pruddaidd foreu Sabboth diweddaf fod Sergt. James Marley Griffith, mab Mr a Mrs James Griffith, Factory, Penlan Street, wedi ei glwyfo yn drwm iawn yn Ffrainc.

Deallwn ei fod wedi colli ei fraich dde. Y mae Sergt. Marley wedi ymuno a'r Manchester Regiment er dechreu y rhyfel.

Rhyw dair wythnos yn ôl bu adref am ychydig ddyddiau o seibiant edrychai yn dda a siriol, ac ychydig feddyliai ei deulu a'i luosog gyfeillion fod damwain mor ddifrifol yn ei aros. Y mae brawd arall iddo, Oswald, yn gwasanaethu gyda'r un gatrawd.

Mae cydymdeimlad llwyraf y dref gyda Sergt. James Marley, ac a'r teulu caredig oll yn eu pryder mawr, gan fawr obeithio ei wellhad buan.

Yr Udgorn 21/06/1916