MARWOLAETH.

Ddydd Sul derbyniodd Mr a Mrs Robert Evans, Sandilands, Cardiff Road, hysbysrwydd fod eu hanwyl ferch, Miss Maggie Evans, wedi marw yn dra disymwth yn Ysbytty y Groes Goch, Plymouth, lle y gweinyddai fel Nurse, a hi yn 37 mlwydd oed.

Yr oedd Miss Evans yn eneth hawddgar o gorff a diwylliedig o feddwl. Gwnai gymwynasau yn ddistwr i rai mewn adfyd, a chafodd ei dynoliaeth ddofn sylweddoliad llawn wrth weini trugredd i glwyfedigion rhyfel mewn gwahanol ysbyttai.

Bu yn gweinyddu yn Ysbytty y Wern cyn myned i Plymouth. Rhoes ei bryd ar fod yn gyfrwng bendith i ddioddefwyr y rhyfel presenol, a chafodd huno ynghanol y gorchwylion gogoneddusaf a garai ei henaid mor drylwyr.

Pwy all ddirnad maint ei hunanaberth ond y Dioddefwr Mawr ei hun. Crynhodd oes o waith i einioes fer, a ffarwelodd a'r fuchedd hon pan oedd twf ei delfrydau yn iraidd. Gwyn ei byd. Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd cyhoeddus, am 1 o'r gloch ddydd Iau nesaf ym mynwent Denio.

Cydymdeimlir a'r teulu trallodedig yn eu profedigaeth chwerw o golli un mor addfwyn.

Yr Udgorn 24/07/1918