YN DDIOGEL.
Cyrhaeddodd yr agerlong Kwarra yn ddiogel i ben ei siwrna yn Ne Affrig, ar ôl mordaith a hir gofir gan iddi yn ystod ei mordaith ddod yn agos i fad tanforawl Germanaidd.Cawsant eu rhybuddio ychydig yn flaenorol fod un heb fod yn nepell, a newidiodd y Capten gwrs y llong.
Gwelwyd y bad tanforawl ond llwyddodd i'w osgoi trwy yru'r agerlong ar gyflymder mawr.
Ein cyd-drefwr Capten Davies, Talarfor, South Beach, yw llywydd yr agerlong, a mawr ganmolir y modd y triniodd ei agerlong mewn awr o gyfyngder.