CWYMPO AR FAES Y GAD.

Foreu Llun derbyniodd Mrs Jones, Moelydon, hysbysrwydd prudd trwy deligram swyddogol fod ei mab, Lifftenant Oscar Jones, wedi syrthio yn aberth i ddialedd y gelyn yn Ffrainc. Brawd ydoedd i Mrs Dr. R. Evans-Jones, Minydon. Yr oedd Lifft. Jones yma yr wythnos ddiweddaf ar ymweliad a'i gartref cyn gwynebu o hono y gyflafan erchyll a dynghedodd ei ddiwedd cynar, ac sydd hefyd i raddau yn gwneud y peth yn anesboniadwy.

Ychydig amser yn ôl yr oeddynt fel teulu yn rhoi i orwedd yn enw Duw yn Felinheli ei anwyl frawd Private Arthur E. Jones, yr hwn a fu farw o'i glwyfau blin mewn ysbytty yn Lloegr, a chyn i'r loes hon ddechreu lliniaru, wele llifdor gofid yn ymagor yn eangach ac yn eu goddiweddu yn drymach y tro hwn.

Dyn ieuanc dysgedig a gwir ddiwylliedig ei dalentau ydoedd, ac yn foneddwr gwirioneddol o ran ei berson a'i ymddygiad. Yr oedd ei garedigrwydd yn ddihareb, ei galon yn bur, a'i fuchedd yn lan, ac yn hynod ddirodres er yn meddu ar ddoniau cynhenid fyddai yn cyfiawnhau yr hawl iddo ymddangos fel arall. Plentyn natur ydoedd, a'i ddymuniadau yn bur fel y wawr. Caffed y gwron hûn esmwyth yn yr estron wlad.

Yr ydym yn cydymdeimlo yn ddwfn a'i fam weddw, yr hwn oedd ganwyll ei llygaid, ac a'r teulu lluosog yn nghanol y corwyntoedd celyd sy'n curo mor ddidrugaredd arnynt. Dymunwn nawdd y Goruchaf drostynt, ac y tyr Ef ei gostrelau gwin er gwella eu poen.

Yr Udgorn 13/06/1917


NEWYDD DA YN DILYN NEWYDD DRWG.

Yr wythnos ddiweddaf hysbysem y newydd prudd dderbyniodd Mrs Jones, Moelydon, fod ei mab, Lifft. Oscar Wynn Jones, wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc, ond daeth gwawr gwell ar ei hanes yn ddiweddarach.

Ymddengys y caed llythyr oddiwrtho wedi'r cyhoeddiad o'i farw gan y Swyddfa Ryfel, a gwnaeth y teulu ymholiadau yn ddiymdroi â'r awdurdodau milwrol yn Llundain, a chafwyd allan fod camgymeriad wedi ei wneud, ac fod Lifft. Jones yn fyw a dianaf. Gwnaed yr amryfusedd gydag arall o enw cyffelyb, yr hwn a gyfarfu a'i ddiwedd.

Derbyniwyd y newydd gyda gwir lawenydd a diolchgarwch calon gan y teulu a chan y trigolion yn gyffredinol.

Dymuna Mrs Jones ddiolch yn gynes i'w lluaws cyfeillion am y cydymdeimlad ddangoswyd â hi yn yr amgylchiadau.

Yr Udgorn 20/06/1917