NEWYDD TRIST O FAES Y RHYFEL.
Ychydig fisoedd yn ôl yr oeddym yn hysbysu fod Sergeant James Marley Griffith, mab Mr a Mrs James Griffith, Factory, wedi colli ei fraich yn un o ysgarmesoedd gwaedlyd yn Ffrainc.Yr wythnos ddiweddaf daeth hysbysrwydd anymunol arall o faes y gwaed, i ychwanegu mwy at boen y teulu, sef fod ei frawd, Signaller Ellis Edgar Griffith, wedi ei glwyfo yn drwm gan ffrwydbelen. Ymddengys ei fod yn dioddef fwyaf yn ei gorph oddiwrth ysgytwad (shell shock), yr hon sydd wedi effeithio i raddau neillduol ar ei glyw a'i leferydd.
Ymunodd Edgar yn wirfoddol ar ddechreu y rhytel, fel ei frawd, gyda'r Manchester Pals, pan mewn gwasanaeth yn Manceinion.
Gall y bechgyn dewr hyn, er yn glwyfedig, deimlo yn falch dros yr hunan aberth mawr a wnaethant dros iawnder gwledydd a anrheithid gan genhedloedd creulon a digydwybod. Sicr genym fod cydymdeimlad cyffredinol y dref â hwy fel teulu yn nghanol tonau gofid sydd yn ymarllwys mor chwyrn at drothwy y cartef hwn, a hyny mewn canlyniad i erchyllwaith y rhyfel bresenol.
Yr Udgorn 01/11/1916
YN GWELLA O'I GLWYFAU.
Yr wythnos hon daeth Signaller Ellis Edgar Griffith, mab Mr a Mrs James Griffith, Factory, adref o'r ysbyty yn yr Alban, a da genym ddeall ei fod yn gwella yn foddhaol o'i glwyfau.Disgwyliwn yn fawr y bydd ei ymweliad a'i gartref ac amgylchoedd Pwllheli yn rhoi adnewyddiad hollol i'w iechyd.
Y mae y teulu hwn wedi dioddef yn dost oddiwrth effeithiau y rhyfel, ac y mae cydymdeimlad cyffredinol y dref â hwy yn eu pryder.