ENILL Y MILITARY MEDAL.

Heddyw (dydd Mawrth) derbyniodd y Maer lythyr oddiwrth Private Dafydd Tremadog Hughes yn rhoi hysbysrwydd fod Private W. Pratt Little, Edward Street, South Beach, wedi enill y Fedal Filwrol (Military Medal) am ei wrhydri yn Palestina.

Dyma'r cyntaf hyd y gwyddom o'r dref i enill y fedal bwysig hon, a llongyfarchwn ef yn fawr ar y cyfryw anrhydedd.

Ymddengys llythyr gwreiddiol a dyddorol Dafydd yr wythnos nesaf.

Yr Udgorn 05/12/1917