MARWOLAETH.
Foreu Sul, ar ôl cystudd maith a blin, bu farw Mrs Cowell, priod Mr James Cowell, Penlan Fawr, a hi yn 64 mlwydd oed. Yr oedd Mrs Cowell yn adnabyddus iawn yn y dref, ac yn dra phoblogaidd ymysg ei chydnabod.Dioddefodd ei phoen a'i chyni yn ddirwgnach. Cymer y gladdedigaeth, yr hon sydd anghyhoedd, le ddydd Iau nesaf yn mynwent Denio.
Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod a'r plant yn eu gofid dwys.
Yr Udgorn 06/02/1917
ANGLADD MRS COWELL.
Dydd Iau, cymerodd angladd Mrs Cowell, priod Mr. James Cowell, Penlan Fawr Hotel, le ym Mynwent Denio. Bu Mrs Cowell farw y Sul blaenorol yn ei 64 mlwydd oed.Yr oedd yn wraig rinweddol a rinweddol a chymeradwy iawn. Yr oedd yn aelod ffyddlon yng Nghapel Penmount, a bu yn athrawes ar y plant am dros 10 mlynedd.
Gweinyddwyd yn yr Angladd gan y Parchn J. Puleston Jones, M.A.. a Thomas Williams. Yr oedd y rhai canlynol yn bresenol : Cerbyd cyntaf, y gweinidogion, Dr. O. Wynne Griffiths, meddyg, a Mr David Williams, Pwll Defaid (yr hwn a ofalai am yr angladd); ail gerbyd : Mri James Cowell (priod), Private T. R. Cowell, Mr R. G. Cowell deintydd (meibion), Mr W. J. Williams (mab-yng-nghyfraith); trydydd cerbyd : Mri Evan Jones, Greugwen; Griffith Jones, Penbont; Richard Jones, Sarn Bach, Abersoch, pedwerydd cerbyd : Mri W. H. Thomas. St. Peters Terrace Pwllheli; a Richard Williams, Moelfawr.
Cydymdeimlir yn fawr a'r perthnasau yn cynwys Mrs W. J. Williams, ei hunig ferch.