Llys Apel Pwllheli.

Cynhaliwyd nos Fercher. Yr oedd yn bresenol Mr. G Cornelius Roberts (Maer), Dr. R. Jones Evars, Mri. R. Murray, R. Roberts. W Parry, John Elis (clerc), G. F. C Yale (cynrychiolydd milwrol).

ACHOS DEINTYDD.

Ymddangosai Mr Hugh Pritchard ar ran R. Groves Cowell, deintydd, dyn ieuanc sengI, 27 oed, C. 2.

Dywedai ei fod yn ddeintydd trwyddedig, ac yn rhoddi ei holl amser yn y dref. Yr oedd y Llys Apel Canolog wedi galw sylw at y pwysigrwydd o gadw deintyddion yn y wlad.

Yn ateb i Mr. Yale dywedai ei fod yn ddigon boddlon i wasanaethu fel deiniydd y tu allain i Bwllheli pe y gofynid iddo. Ategai Mr. Pritchard nad oedd yn abl i wasanaethu yn y fyddin.

Caniatawyd esgusodiad amodol.

Yr Udgorn 25/07/1917