MAER NEWYDD.
Mae Mr Hugh Pritchard, Cyfreithiwr, Mount Pleasant, wedi addaw derbyn gwahoddiad y Cyngor Trefol i fod yn Faer am y flwyddyn nesaf.Mab ydyw Mr. Pritchard i'r diweddar Capten Hugh Pritchard, a Mrs. Pritchard, Sabrina.
Mae yn dra hysbys yn y byd cyhoeddus gan ei fod wedi bod yn aelod amlwg o'r Cyngor Sir am flynyddau. Hefyd y mae wedi gwasanaethu fel aelod o'r Cyngor am ddeuddeng mlynedd. Mae ei brofiad maith fel clerc i Fwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli, Cyngor Dosbarth Lleyn, y cyd-Bwyllgor Iechydol Sirol, ac amryw o bwyllgorau eraill, yn fantais fawi iddo i gyflawni'r swydd yn effeithiol. Mae hefyd yn ddiacon blaenllaw gyda'r Methodisciaid Calfinaidd ac yn Rhyddfrydwyr pybyr.
Efe fu cynrychiolydd lleol Mr Lloyd George yn yr etholiacau am flynyddau.