MAER NEWYDD PWLLHELI. CYNGHORYDD G. CORNELIUS ROBERTS.

Ganed Mr. G. Cornelius Roberts yn y flwyddyn 1868. Cychwynodd fusnes pan yn ddeunaw oed, a phriododd pan yn un ar hugain. Mae iddo ddau o feibion ac un ferch - y mab hynaf yn swyddog yn y Fyddin Gymreig. a'r mab arall yn yr un busnes a'i dad.

Y mae'r Cynghorwr G. Cornelius Roberts ers rhagor nag wyth mlynedd yn dal y swydd o drysorydd i Gymdeithas Masnachwyr Cig Gogledd Cymru. Y mae yn feirniad rhagorol ar anifeiliaid, a bydd mynych alw am ei wasanaeth yn y cyfeiriad hwnw, ond fel enillydd gyda cheffylau ysgeifn yr adnabyddir ef oreu drwy y wlad. Y mae wedi enill tros bum' cant o wobrwyon mewn gwahanol arddangosfeydd. Cafodd ei benodi gan y Cyngor Sir yn aelod o'r pwyllgor o dan Fwrdd Amaethyddiaeth i wella magwrfa ceffylau ysgeifn yn y wlad. Y mae yn aelod o'r Cyngor Tref ers tair blynedd ar ddeg, ac yn ystod y cyfnod hwnw gwnaeth wasanaeth mawr i'r cyhoedd. Y mae yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd ac yn gapten y frigad dân ers tros ugain mlynedd.

Drwy ei ymdrechion ef yn fwyaf arbenig y sicrhawyd y peiriant newydd at ddiffodd tân i'r dref flwyddyn i Mai diweddaf. Ei hyfrydwch penaf, fod bynag, yw ei gysylltiad ag Ysgol Genhadol y Traeth. Y mae yn aelod o'r ysgol ers deng mlynedd ar hugain, ac efe yw'r arolygwr ers tair blynedd ar ddeg.

Cafodd y tlawd a'r anghenus lawer achlysur i fendithio ei enw oherwydd ei galon garedig a'i law hael.

Rhoes aelodau yr Ysgol anrheg hardd iddo ef a Mrs Roberts tua dwy flynedd yn ôl ar yr achlysur o'u priodas arianaidd.

DEWIS MAER.

Cynygiodd yr Henadur R Ivor Parry, ac eiliodd yr Henadur Dr O. W. Griffith, fod Mr G. Cornelius Roberts i fod yn faer y dref am y flwyddyn ddyfodol.

Sylwodd Mr Parry fod yn bleser ganddo gynyg Mr Roberts yn faer. Yr oedd wedi bod yn ffyddlon i waith y Cyngor yn y gorphenol ac yn barod iawn i roddi pob help a allai i fuddianau y trethdalwyr. Bu yn ffyddlon iawn gyda'r Fire Brigade, a thrwy ei weithgarweh ef yn benaf y sicrhawyd y fire engine. Yr oedd yn garedig i'r tlawd, ac ni bu erioed adeg pryd y bu mwy o angen hyny a'r adeg bressnol, ac yr oedd ganddo foddion at ei wasanaeth. Yr oedd Mr Roberts hefyd yn wladgarwr mawr, un o'i feibion yn gwasanaethu yn y fyddin ac wedi cael dyrchafiad yn barod.

Wrth eilio dywedodd Dr Griffith ei fod yn ategu popeth a ddywedwyd gan Mr Parry, a darllenodd amryw englynion i'r Maer, y rhai roed iddo gan gyfaill. Wedi i'r cyn-Faer (Dr Evans) ei wisgo yn y swydd faerol, diolchodd y Maer newydd am yr anrhydedd.Yr oeddynt wedi ei ladd, meddai, gydi'u caredigrwydd.

Gallai eu sicrhau nad oedd, erioed wedi breuddwydio am yr anrhydedd. Yr unig beth obeithiai oedd, cael bod yn henadur dim mwy na hyny. Nid oedd llawer o welliantau i'w disgwyl. Pwnc mawr y dydd oedd cynilo. Ond yr oedd rhai pethau y gellid symyd ymlaen gyda hwy heb gostau o bwys. Hoffai ddyfnhau y fynedfa i'r porthladd, a gwneud y Maes yn fwy atdyniadol a threfnus, a chael digonedd o ddwfr i'r dref. Yr oedd y gwyn ar y pryd yn sicr o fod yn anfantais fawr. Nid oedd o un diben prydferthu'r dref os byddai y dwfr yn brin. Credai mewn gwneud y ffynhonell yn fwy, harddu'r Maes, a'i glanhau a chlirio ochr y Cob. Dymunai am bob help gan aelodau y Cyngor yn ystod tymor ei faeroliaeth.

Sicrhaodd y cyn-Faer y byddai yn bleser ganddo roddi pob help a allai i'r Maer, a dymunai bob llvvyddiant iddo yn ystod tymor ei faeroliaeth.

Yr Udgorn 10/11/1915