Tribynlys Lleyn.

Cynhaliwyd yr uchod dydd Sadwrn. Mr Maurice Jones, yn y gadair. Yr oedd yn bresenol Mri. John Pierce, J. R. Jones, J. H. Parry, a'r Parch. T. E. Owen, gyda Mr H. Prichard (clerc) a Mr J. G. Jones (cynrychiolydd milwrol).

ESGUSODI CIGYDD.

Ymddangosai Mr Hugh Pritchard ar ran Mr G. C. Roberts (Maer), yn wneyd cais am esgusodiad i'w fab, Griffith Roberts, rheolwr ei fusnes fel cigydd.

Dywedai Mr Pritchard mai dyn sengl, 21 mlwydd oed oedd yr apelydd. Efe oedd yn prynu, gwerthu, a lladd y cwbl yn y busnes. Yr oedd Mr Roberts wedi cau un adran o'r busnes yn Abersoch am fod ei fab hynaf wedi ymuno. Yr oedd Mr Roberts yn prynu a gwerthu ac yn ffermio 32 acer o dir, ac yn codi cynyrch eithriadol o'r cyfryw, ac yn ychwanegol at hyny yn rhoddi llawer iawn o'i amser i waith cyhoeddus.

Caniatawyd esgusodiad amodol.

Yr Udgorn 18/10/1916


Y Llys Apel Sirol.

DAU EISTEDD YN MHWLLHELI.

Cyfarfu yr uchod am ddau ddiwrnod yn Mhwllheli, dyddiau Iau a Gwener, diweddaf. Yr oedd yn bresenol Mri. J. E. Graves, (Arglwydd Raglaw), Cadeirydd Dr. Wynne Griffiths, Richard Davies, R. T. Jones, John Owen, G. Hughes Roberts, Thomas Griffith, Llew Davies, (Clerc) Lieut. Caradog Davies, (Cynyrchiolydd Milwrol) W. E. Williams, (Cynyrchiolydd Amaethyddol).

Llongyfarchai y Cadeirydd Lieut. C. Davies, a'r ei ymddanghosiad yn eu plith, ar ôl ei waeledd diweddar. Yr oeddynt yn falch o gael ei gyfarwyddid yn y gwaith dyrus oedd ganddynt i'w wneud.

Apeliai y Cynrychiolydd Milwrol yn erbyn esgusodiad amodol i G. Roberts, Maes Meat Stores, Pwllheli, (cigydd) 21 mlwydd oed. Eglurai Mr. Davies fod Mr. G. Cornelius Roberts, yn dal safle bwysig.

Yr oedd yn Faer y dref, ac yn dal amryw o swyddi cyhoeddus eraill, cydnabyddai fod mab hynaf Mr. Roberts, wedi ymuno a'r fyddin o'r cychwyn ac yn awr yn ymladd yn Ffrainc, credai ef y buasai yn well gan Mr Roberts, ei hun i'w fab gael esgusodiad gan y Llys Sirol os oedd am gael ei esgusodi o gwbl gan fod Mr. Roberts, ei hun yn gadeirydd y Llys Lleol. Gadawai i'r Llys benderfynu pa un a ddylai Mr Roberts, anfon y mab bwn eto i'r fyddin Dywedodd Mr. H. Pritchard, a'r ran Mr Roberts, y byddai yn rhaid iddo gau y busnes cig os yr anfonid y mab hwn i'r fyddin.

Yr oedd ei amser ef i gyd yn cael ei gymeryd i fynny gan y fferm a'i waith fel Porthmon, a'i ddyledswyddau cyhdeddus. Yr oedd Mr. Roberts, wedi gorfod cau rhan o'r busnes pan ymunodd y mab arall a'r fyddin a chredai nad oedd yn deg gofyn iddo roddi ei ddau fab a cholli ei holl fusnes.

Caniatawyd esgusodiad hyd Rhagfyr 31. Argymhellr fod yr Apelydd i wneud ymgais am rhywun yn ei le yn y cyfamser.

Yr Udgorn 08/11/1916