PRIODAS Y MAER.

Deallwn y priodir ein parchus Faer, Dr. R. Jones Evans, yfory (dydd Mercher) yn nghapel Brynmenai, Felinheli, â Miss Frances A. Jones, merch Mrs Jones, Moelydon, Pwllheli.

Eiddunwn rhagllaw bob llwydd a bendith i'r ddeuddyn ar eu huniad hapus.

Disgwyliwn roddi adroddiad o'r amgylchiad dyddorol yn ein rhifyn nesaf.

Yr Udgorn 07/10/1914


PRIODAS Y MAER.

Ddydd Mercher diweddaf yn nghapel Methodistiaid Calfinaidd y Felinheli, unwyd Dr R. Jones Evans, ein Maer poblogaidd, mewn priodas â Miss Frances A. Jones, merch Mrs Jones. Moelydon, Pwllheli, a'r diweddar Mr W. E. Jones, y Felinheli.

Yr oedd y dref oll wedi ei phrydferthu â baneri ar yr achlysur dyddorol. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch. J. E Hughes, B.A., B. D. a'r Parch J Puleston jones, M.A. Rhoed y briodferch ymaith gan ei brawd, Mr Oscar W. Jones.

Gwasanaethwyd fel gwas priodas gan Mr James Williams, Lerpwl, ac fel morwyn priodas gan Mrs O. T. Owen, chwaer y briodferch. Aeth y par ieuanc i dreulio eu mis mêl i Lundain.

Yr oedd y Cyngor Trefol ymysg y rhai anfonodd frysnegesau i longyfarch y pâr dedwydd ac i ddymuno bob hapusrwydd iddynt.
 

Yr Udgorn 14/10/1914