YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher. Ar y fainc Mri J. G. Jones (cadeirydd), Maurice Jones, G. Hughes Roberts, C. H. Lloyd Edwards, W. Thomas. Dr. Gwenogfryn Evans, Dr. S. W. Griffiths, Dr. R. Jones Evans, a Mr J. Hughes Parry.

SAETHU PHEASANTS YN LLE GERMANS.

Cyhuddai yr Arolygydd Owen John Roberts Mynydd Mawr, Fourcrosses, o werthu ffesant i Miss Clarke. Pwllheli heb drwydded i wneyd hyny.

Tystiodd yr Heddwas Thomas iddo weled y diffynydd yn dod a bag ar feieicl i'r dref, ac yn myned ag ef i siop Miss Clarke. Amheuodd ef ei fod yn gwerthu helwriaeth, ac aeth ar ei ôl i fyny yr heol ar ôl iddo ddod allan. Gwadai ar y cychwyn ei fod wedi bod yn siop Miss Clarke. Gwnaeth yntau iddo ddod yn ôl gydag ef a phan oedd yn ymyl y siop addefodd iddo werthu ffesant i Miss Clarke am 2s.

Dywedodd nad oedd ganddo drwydded i ladd helwriaeih na thrwydded i gario gwn. Addefodd y diffynydd ei euogrwydd, ond dywedodd mai wedi myned a'r gwn i'r cae i saethu at y brain oedd yn dyfetha y pytatws yr oedd. Ond bu iddo gloffi y ffesant fel y bu i'r ci ei dal, ac yn hytrach na'i gadael yno i'r cwn daeth a hi gydag ef i'r dref.

Dirwywyd y diffynydd i 10s.

Sylwodd y Cadeirydd, wrth wneyd y dyfarniad yn hysbys y buasai yn llawer gwell i ddyn ieuanc fel efe fyned i saethu y Germans. Yr oedd yn llawer gwell saethu Germans na ffesants. a chawsai faint fynai o saethu yn y lle hwnw.

Cyhuddwyd yn nesaf Miss Clarke, game dealer, etc. Gaol Street, Pwllheli, o brynu y ffesant gan berson heb awdurdod i'w gwerthu.

Ymddangosodd Mr Cradoc Davies ar ei rhan a phlediai euogrwydd, er ei fod yn newydd iddo ef a Miss Clarke ei bod wedi troseddu. Yr oedd gan Miss Clarke drwydded i ddelio mewn helwriaeth ac nis gwyddai ei bod hi i ffeindio allan fod gan y personau y prynai yr helwriaeth ganddynt hawl i'w gwerthu. Yr oedd John Robert, yn fab i fferm fawr ac ni ddaeth i'w meddwl i'w amheu o gwbl. Yr oedd gan Miss Clarke gymeriad uchel fel un yn cario yn mlaen fasnach deg ac yr oedd mewn anwybodaeth hollol o'r trosedd hwn.

Dirwywyd hi i 10s.

Yr Herald Gymraeg 26/10/1915