MEDDWI.

Ymddanghosodd Hugh Hughes gwerthwr pysgod, gerbron yr Heddlys, ddydd Mercher, ar y cyhuddiad o feddwdod. Dywedodd yr Arolygydd Owen mai dyna y pumed cyhuddiad yn erbyn Hughes er y flwyddyn 1912.

Ar ran y diffynydd dywedodd Mr. H. Prichard ei fod ef wedi ceisio dangos iddo yr hyn ddigwyddai iddo os y parhai i feddwi.

Erfyniodd Mr. Prichard ar y Fainc i roddi un cyfleusdra arall iddo.

Gollyngwyd ef allan ar brawf.

Genedl Gymreig 31/03/1914