PENODIAD.

Bu i Mrs Wallis Thomas, Gwalia Restaurant, gael ei phenodi yn ysgrifenyddes i Bwyllgor y Merched perthynol i Gymdeithas y Gweinyddesau yn lle Miss Jones, Y Pines, sydd yn ymddiswyddo.

Yr Herald Gymraeg 08/06/1915


Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Presenol Mri. Maurice Jones, C. H. Lloyd Edwards, J. G. Jones, G. Hughes Roberts, W. W. Griffith, W. Thomas, J. Hughes Parry.

DIRWYO MASNACHWYR.

Cyhuddai yr Arolygydd Vaughan Davies, Mr. R. Albert Jones (Confectioneer), Liverpool House, Penlan Street, Pwllheli, o roddi gormod o siwgr a blawd gwyn yn y cacenau.

Ymddangosai Mr. W. R. Hughes, Caernarfon, i erbyn.

Tystiai Mr. Vaughan Davies iddo fyned i fasnachdy y diffynydd yn mis Mai, ac egluro iddo y rheolau newydd ynglyn a gwneud cacenau. Gadawodd gopi o'r rheolau iddo. Ni chaniateid mwy na 15 y cant o siwgr a 30 y cant o flawd gwyn yn y cacenau. Yn ystod y mis diweddaf aeth i'w fasnachdy drachefn, a phrynodd gacenau. Anfonodd hwynt ymaith i'w dadansoddi. Cynwysent 44.7 y cant o flawd, a 22.8 o siwgr, yr hyn oedd yn 14.7 y cant yn ormod o flawd a 7.8 y cant yn ormod o siwgr. Pan siaradodd ag ef yn ei cylch dywedai nad oedd gormod o siwgr ynddynt, ac ategai iddo sylwi wrth y wraig ar y pryd eu bod yn ffodus iawn mai y cacenau a lleiaf o siwgr ynddynt a gymerodd yr Arolygydd.

Dywedai yr Arolygydd fod masnachwyr Pwllheli yn waeth na masnachwyr unrhyw le yn y cyfeiriad hwn.

Mewn atebiad i'r diffynydd dywedodd yr Arolygydd ei fod wedi cymeryd cacenau i'w dadansoddi o bedair o siopau yn y dref yr adeg hono. Gofynai a wyddai fod cacenau ag y gwaherddid i'w gwneud yn cael eu dangos yn ffenestri masnachdai yn y dref y diwrnod hwnw.

Yr Arolygydd : Arhoswch hyd y Llys nesaf.

Y diffynydd : Nid wyf yn dweyd y gwna dau ddu un gwyn.

Y Clerc: Nid yw cyfeirio at eraill yn eich helpu o gwbl.

Dywedai y diffynydd nad oedd ond owns o siwgr ar gyfer 10 owns o flawd yn y cacenau, pryd y caniateid dwy owns ar gyfer pwys o flawd gan y rheolau. Dichon fod yr ychydig jam a roddodd yn nghanol y cacenau wedi eu melysu. Yr oedd cymaint o reolau dyrus yn dod allan fel yr oedd yn anhawdd iawn eu dilyn.

Hefyd cyhuddid Mrs Walis Thomas, Gwalia Restaurant, o drosedd cyffelyb. Cynwysai y cacenau yn ei hachos hi ormod o 6.6 y cant o siwgr a 11.83 y cant o flawd. Cydnabyddai y trosedd mewn llythyr i'r fainc.—

Dirwywyd Jones i 7s. 6c a Thomas i 5s. 6c., gyda gini yr un o gostau.

Yr Udgorn 15/08/1917


Llys Ynadon Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher Gerbron Dr. S. W. Griffith (yn y gadair), Mr. Maurice Jones. Mr. G. Hughes Roberts, Dr. Gwenogfryn Evans, Dr. O. Wynne Griffith, Mr. J. Hughes Parry, a Mr G. Cornelius Roberts.

HELYNT Y COFRESTRU'R BWYDYDD.

Cyhuddai yr Arolygydd Owen y personau canlynol am beidio a chadw rhestr o'r prydau bwyd a gyflenwir gauddynt yn eu tai, Mary Walis Thomas, Gwalia Restaurant, William Jones, Eifl Temperance Hotel, Robert Hughes. London Temperance Hotel, a Julien Hohtnburg, West End Hotel.

Rhoed tystiolaeth gan y Rhingyll Lloyd i'r perwyl ei fod wedi cyflenwi y tai bwyd a'r gwestai yn y dref â chopi o'r archeb ar Awst 27ain. Ymwelodd â thai y diffynyddion ar Hydref 13eg, a chafodd nad oeddynt yn cadw rhestr o'r prydau yn briodol. Dywedai Mrs. Walis Thomas ei bod hi yn cadw rhestr o'r prydau a gyflenwid, ond fod y Rhingyll Lloyd wedi dweyd fod yn rhaid eu cadw mewn llyfr pwrpasol, ac addawodd roddi archeb am un iddi, ond nis cafodd ef eto. Yr oedd cymaint o archebion yn cael eu gwneud, a'r rhai hyny mor anhawdd i'w deall, fel yr oedd yn anhawdd iawn i neb eu cadw.

Rhoed tystiolaeth yn achos Julien Hohenberg gan Mr. Vaughan Davies, yr hwn a ddywededd ei fod ef a Mr. Hughes, Arolygydd y Bwydydd dros Ogledd Cymu, wedi galw yno. Dywedodd y diffynydd wrtho ei fod wedi cychwyn cadw y rhestr, ond ei fod wedi ei dinystrio. Dywedodd Mr. Hohenburg nad oedd yn bosíbl i ddyn oedd heb gael addysg golegawl lunio y rhestr (chwerthin).

Yr oedd yn gofyn am y fath fanylion fel nac oedd yn bosibl i ddyn cyffredin eu cyflenwi. Yr oedd ef oherwydd prysurdeb a rhy fychan o wasanaethyddion wedi taflu y gorchwyl i fyny.

Ymddangosai Mr. Hugh Pritchard ar ran William Jones, a dywedal fod y diffynydd o dan yr argraff nad oedd angen iddo ef gadw y rhestr, am ei fod wedi cau i fyny yr adran i wneud bwyd i'r cyhoedd oherwydd y rhyfel. Pan gafodd allan ei fod yn gyfrifol prynodd y rhestr ar unwaith. Yr oedd yr archeb wedi ei chywiro dair gwaith yn ddiweddar, ac yr oedd yn annawddu i'r dyn cyffredin ei deall. Nid oedd Robert Hughes yn bresenol.

Dywedodd y Cadeirydd fod yn bwysig cadw y rhestr yn wyneb prinder ymborth. Gorchymynwyd i'r diffynyddion dalu 5s yr un, sef y costau.

Yr Udgorn 24/10/1917