ADREF O DIR Y GELYN.
Yr wythnos ddiweddaf daeth Mri. Hughie Evans, mab Mr a Mrs Hugh Evans. Ala Cottage, a Edwin Roberts, mab Mr a Mrs Robert Roberts, New Street, adref ar ôl bod yn garcharorion yn yr Almaen am rai blynyddau. Morwyr oeddynt hwy, a chymerwyd hwy yn garcharorion gan y rhyfel-long, "Moewe" eiddo'r gelyn, yr hon fu'n gwneyd y fath ddifrod ar ein llongau ar un adeg.Er eu bod wedi gweled amseroedd enbyd a dioddef caledi mawr edrychent yn bur dda drwy'r cwbl.
Hefyd, daeth Mr. J. R. Williams, mab Mr a Mrs John Williams. Brigydon. South Beach, adref ar ôl bod am ddwy flynedd a hanner yn garcharor yn nhir y gelyn.