PRIODAS.
Yng ngwyddfod llawer o ewyllyswyr da priodwyd Mr. S. R. Jones, Clerc cynorthwyol y Gwarcheidwaid a Chyngor Gwledig Lleyn, a mab i'r diweddar Gadben John Jones, Frongoch, Minffordd, ddydd Iau, yng nghapel Siloam gan y Parch. John Hughes, B.A., B.D., â Miss Frances J. Griffith, trydedd ferch Mr. a Mrs James Griffith, Woollen Factory, Penlan Street.Cyflwynwyd y briodaefeich gan ei thad. Y forwyn oedd Miss M. E. Griffith. Mr Owen Jones, brawd y priodfab oedd y gwas.
Aeth Mr a Mrs. S. R. Jones am dro i Lerpwl a Southport. Derbyniasant nifer anghyffredin o anrhegion gwerthfawr.
Y Genedl Gymreig 05/05/1914
PRIODAS.
Yng nghapel Salem (M C.) foreu Iau diweddaf, unwyd mewn glan briodas Mr. Simeon R. Jones, clerc yn ngwasanaeth Mr. Hugh Pritchard, cyfreithiwr, a Miss Frances J. Griffith, trydedd ferch Mr. a Mrs. James Griffith, Factory.Gwasanaethwyd gan y Parch J. Hughes, B.A. B. D., yn mhesenoldeb Mr. W. M. Jones, y cofrestrydd. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad, a gwasanaethwyd arni fel morwyn gan ei chwaer Miss M. E. Griffith. Y gwas ydoedd Mr. Owen Jones, brawd y priodfab.
Ymadawodd y par ieuanc yn hwyrach o'r dydd am Southport i dreulio eu mis mêl. Yr oedd yr anrhegion yn niferus, ac yn eu mysg yr oedd un oddiwrth Fwrdd y Gwarcheidwaid.
Y wen fwyn oedd lawn o swynion,—a droes
Yn drech yn ei galon;
A rhwydd o hyd y rhydd hon
Iâs ym mywyd Simeon.