WEDI EI GLWYFO.
Ddiwedd yr wythnos derbyniodd Mr. William Hughes, Nursery, Ala Road, hysbysrwydd prudd o'r Swyddfa Ryfel fod ei fab ieuengaf, Private Bertie Hughes, wedi ei glwyfo ym Mhalestina.Dymunwn i'r cyfaill hoff, er ymhell o gyrhaeddiad llaw dyner teulu i weinyddu trugaredd iddo, bob hwylusdod i ddod trwy'r oll yn iach megis cynt.