YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher gerbron Mri J. G. Jones.. Maurice Jones, G. Hughes Roberts, Dr. Gwenogfryn Evans, J. Hughes Parry a Dr. S. W. Griffiths.

FFRAE YN NGHYLCH CŴN.

Cyhuddodd Robert Thomas, 11 St. Tudwal's Terrace, Pwllheli, David N. Jones, Ala Road, Pwllheli o ymosod arno. Hefyd cyhuddai yr olaf y blaenaf o ymosodiad arno yntau.

Tystiodd y naill a'r llall fod ei wrthwynebydd wedi ymosod arno. Yr oedd yr holl anghydwelediad wedi codi oherwydd dadl yn nghylch cŵn. Honai y naill fod ei gi ef yn well na chi y llall.

Tystiodd Thomas fod Jones wedi ei gicio fel y bu yn rhaid i'r meddyg weinyddu arno.

Dirwywyd David N. Jones i lp a thaflwyd y cyhuddiad yn erbyn Thomas allan.

Yr Herald Gymraeg 31/08/1915


Llys Ynadol Pwllheli.

Ddydd Mercher, Awst 25ain. O flaen J. G. Jones, Ysw. (yn y gadair), yr Henaduriaid Maurice Jones a G. Hughes-Roberts, Dr. S, W. Griffith, Dr. Gwenogvryn Evans, a J. Hughes- Parry, Ysw.

CYHUDDIAD O YMOSODIAD.

Cyhuddid David N Jones, Ala Road, gan Robert Thomas, St. Tudwall's Terrace, o fod wedi ymosod arno.

Dygid cyhuddiad cyffelyb gan Jones yn erbyn Thomas.

Cafodd David Jones, yr hwn gyhuddid o daro a chicio Thomas, ei ddirwyo i bunt.
 

Yr Udgorn 01/09/1915