WEDI EI GLWYFO.
Ddydd Sadwrn derbyniodd Mr John C. Jones, Pretoria, hysbysrwydd swyddogol yn dweyd fod ei fab, Private Robert John Jones, wedi cael ei glwyfo yn Ffrainc. Ymddengys oddiwrth y wybodaeth ddiweddaraf a gaed fod ei archollion yn rhai gwir dost, ond hyderir y daw trwadd gyda medr a gofal y meddygon yn yr ysbytty.Ychydig. wythnosau yn ôl yr oedd ar ymweliad a'i gartref cyn gwynebu o hono am y waith gyntaf allan i faes y gyflafan yn Ffrainc.
Eiddunwn i'r cyfaill addfwyn esmwythid yn ei boen ac adferiad buan.