YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd dydd Mercher. Ar y fainc Cyrnol Lloyd Evans (Cadeirydd). Mri Maurice Jones, J. G. Jones; W. Anthony, Claud Lloyd Edwards, G. Hughes Roberts, Rupert Ellis, Dr. R. Jones Evans, J. Hughes Parry. W. W. Griffiths, C. H. Lloyd, Dr. Gwenogfryn Evans.CARIO GWN HEB DRWYDDED.
Cyhuddodd Mr. J. T. E Jones, swyddog y trwyddedau, A. B. Ashworth o gario gwn heb drwydded. Tystiodd y Rhingyll Lloyd iddo weled y diffynydd ar Hydref y 12fed, tua chwech y boreu, yn cario gwn heb drwydded.Dywedodd fod ganddo drwydded adref ond canfyddodd ar ôl hyny iddo godi trwydded yn mhen dwy awr ar ol iddo ef ei weled.
Ategodd Mr. Jones na buasent wedi erlyn y diffynydd onibai iddo ddweyd yr hyn nad oedd yn wir. Dirwywyd ef i 10s yn cynwys y costau.