WEDI EI GLWYFO.
Nos Fawrth derbyniodd Mr Thomas J. Williams, Bodawen, hysbysrwydd trist trwy bellebr o'r Swyddfa Ryfel yn dweyd fod ei fab, Lifftenant Thomas J. Williams, wedi ei glwyfo yn Ffrainc. Ofnid ar y dechreu fod ei glwyfau yn rhai difrifol iawn, ond yn ddiweddarach hysbyswyd ei fod wedi cyraedd yn ddiogel i ysbytty Lady Ridley, Llundain, a'i fod yn gwella yn foddhaol. Symudodd y newydd hwn y pryder a'r boen oedd wedi goddiweddyd ei gartref, a rhoes help i'w dad pryderus a'i gyfeillion i obeithio'r goreu yn nghanol yr anobaith mwyaf.Y mae Lifftenant Williams, fel y gwyr y dref yn dda, yn un o'i phlant hawddgaraf a difost, a byddeu dymuniadau goreu ar ei ran yn ei ofid yn gymorth iddo ddwyn ei faich yn ddi-achwyn. Gwawried y boreu arno pan y gwel ei hun yn mwynhau perffaith iechyd heb gwmwl lleiaf yn ei wybren megis cynt.
Dymuna Mr T. J. Williams, ei dad, ddioch i drigolion y dref am y caredigrwydd a'r cydymdeimiad mawr ddangoswyd ato yn ei boen am Tommy, a'r cysur a dderbyniodd trwyddynt. Bydd hyn yn falm hefyd i boenau Tommy ddeall am y cydymdeimlad cyffredinol sydd ag ef yn ei dref enedigol.