MARWOLAETH GWRAIG GYMERADWY.
Drwg genym gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth y wraig ddiwyd a hoff Mrs Williams, priod Mr Thomas J. Williams, Bodawen Temperance, yr hyn a gymerodd le foreu Mercher diweddaf, a hi yn 63 mlwydd oed.Yr oedd Mrs Williams yn un o ragorolion y ddaear, yn wraig ddoeth ac ymdrechgar, ac yn fam dirion i'w phlant. Bu yn gymwynasgar ac yn hael i lu, a bydd ei marw yn golled drom i amryw ag y bu ei chalon dyner yn gweini trugaredd iddynt. Byr fu ei chystudd, a bu farw fel y bu fyw, ac ehedodd ei hysbryd i fyd na wel gyni na phoen byth.
Mae y ddau fab a fedd yn y fyddin, set Lifftenant Tom J Williams, yr hwn sydd yn Ffrain, a Private Humphrey Williams, yr sydd yn Salonica. Dydd Sadwrn cymerodd y gladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, yn hunfa newydd Denio. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas Williams, The Elms, a J. Rhydderch, St. Peter's Terrace.
Gedy yn yr anial o'i hol briod, a phlant sydd ar wasgar yn ngwledydd estronol y byd, yn eu gofid a'u hiraeth dwfn am un mor anwyl. Hefyd a'i dwy chwaer yn eu mawr ofid, sef Miss Hughes, Cefn Gwyn, Afonwen, a Mrs Williams, Garreg Wen, Penygroes.
Duw fyddo'n nodded ac yn amddiffyn iddynt oll yn y bwlch cyfyng presenol.