SWYDDOG CLWYFEDIG.

Yr wythnos o'r blaen dychwelodd Lifftenant T. J. Williams Bodawen Temperance, adref am dro o'r ysbyty. Mae'n wybyddus i'n darllenwyr ddarfod iddo rai misoedd yn ôl gael ei glwyfo yn ddifrifol mewn brwydr dost yn Ffrainc, ac y bu hyd yn hyn o dan ofal a thriniaeth y meddygon mewn ysbyty yn Lloegr.

Llawenydd digymysg i'r trefwyr oedd ei weled yn edrych mor siriol a chalonog, ac er cymaint y loes ddioddefodd yn ei gorff, nid oedd y wên gynefin hono a berthyn i'w bersonoliaeth wedi diffoddi yn ei fynwes bur.

Er fod olion yr ymosodiad arno, ceir arwyddion amlwg y gwellheir ef yn fuan.

Yr Udgorn 19/09/1917