WEDI EI GLWYFO.

Heddyw (dydd Mawrth) derbyniodd Mr T. J. Williams, Bodawen, Cardiff Road, gerdyn oddiwrth Private Humphrey Williams, ei fab, ei fod yn yr ysbyty yn Salonica wedi ei glwyfo.

Ymddengys ddarfod iddo gael ei gladdu mewn dug-out gan ffrwydriad pelen.

Yn y cerdyn anfona ei gofion at ei anwyl fam (y mae heb glywed eto am ei marwolaeth).

Eiddunwn iddo yntau adferiad llwyr.

Yr Udgorn 14/03/1917