MARWOLAETH.
Drwf genym gofnodi marwolaeth Robert Glyn Davies, bachgen bach Mr a Mrs Richard Davies, Bronafon, Pwllheli, yn 6 mlwydd oed, yr hyn a gymerodd le yn hynod ddisymwth dydd Iau diweddaf.Plentyn bach siriol ac hoffus gan bawb oedd Glyn ond os yw y golled yn fawr yma, y mae'r enill yn fwy yr ochr draw. "Gadewch i blant bychain ddyfod atat Fi," medd y Bugail Da, a chymerodd ef i'w gôl.
Cymerodd y gladdedigaeth le (angladd anghyhoedd) ddydd Llun. Caffed y teulu trallodus nerth i ddal y brofedigaeth chwerw hon.
Dymuna Mr. a Mrs. Richard Davies ddatgan eu diolchgarwch i bawb a ddangosasant gydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth.
Yr Udgorn 24/02/1915
MARW'N IEUANC.
Ddydd lau, ar ôl ychydig ddyddiau o waeledd, bu farw Robert Glyn Davies, bachgen chwe' blwydd oed i Mr. a Mrs. Richard Davies, Bron Afon, Brookfield Terrace.Yr oedd y bachgen yn yr Ysgol Sul yn Salem y dydd Sul blaenorol ac yn fachgen hynod hoff a deallgar.
Cydymdeimlir yn fawr a'i rieni yn eu profedigaeth. Cymerodd yr angladd le ddydd Llun (ddoe) yn mynwent Denio, y Parch John Hughes, B.D., yn gwasanaethu.