MARWOLAETH.

Yn blygeiniol boreu heddyw (dydd Mawrth), ar ôl cystudd blin, bu farw Miss Margaret Roberts, Coal Merchant, Osborne House, Sand Street, a hi yn 48 mlwydd oed. Merch ydoedd i'r diweddar Mr a Mrs Thomas Roberts, Cariwr, Sand Street, gynt.

Adnabyddid hi fel cymeriad diwyd a gofalus wrth gyflawni ei dyledswyddau masnachol, a hoffid hi yn fawr gan y lluaws cwsmeriaid a feddai.

Cafodd gystudd trwm, ond bu'n dawel ei hysbryd trwy'r dioddefaint oll. Yr oedd cylch ei chydnabyddiaeth yn fawr a bydd chwith gan y cyfryw ei cholli.

Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd anghyhoedd, yn hen fynwent Denio ddydd Gwener. Cydymdeimlwn yn ddwys a'i theulu yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Udgorn 31/10/1917