CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.
Dymuna Mr. a Mrs W. Owen, Maesyllyn, Rhydlyniog, gydnabod yn ddiolchgar y caredigrwydd eithriadol ddangoswyd atynt gan amryw yn eu profedigaeth ddisymwth o golli eu merch, Mrs Gwen Roberts, Talcymerau Cottage.Gan fod y llythyrau yn rhy luosog i'w hatteb yn bersonol, erfynir ar i bawb dderbyn hyn fel arwydd o'u gwerthfawrogiad.
Dymunasant hefyd ddiolch am y blodau dorchau hardd.