MARWOLAETH SYDYN.
Mae yr anwydost yn ymosod yn byr drwm ar amryw o deuluoedd yn y dref, ac y mae yr Ysgolion Elfenol, Ysgolion Sul a'r Ysgol Canolraddol wedi eu cau o'r herwydd.Prydnawn Llun bu farw Mrs. Gwen Roberts, priod Private Abraham Roberts, Talcymerau Cottage, yr hwn sydd yn ymladd yn Ffrainc, a merch Mr a Mrs William Owen, Maesyllyn Terrace, yn 27 mlwydd oed.
Ymddengys ei bod wedi cael ymosodiad ysgafn o'r anwydost ddiwedd yr wythnos, a chafodd ymosodiad arall ddydd Llun, yr hwn a brofodd yn angeuol er pob ymdrech.
Cydymdeimlir a'i phriod a'r plant a'i rhieni a'r teulu oll yn eu profedigaeth sydyn.